Canolfan Heol Goffa
Mae’r ganolfan ddydd yn arbenigo mewn darparu gwasanaeth i oedolion a chanddynt anableddau dysgu a chorfforol.
STEP I Cross Hands
Cyflogaeth a Hyfforddiant â Chymorth STEP I ym Mharc Busnes Cross Hands oedd yr Uned STEP gyntaf a agorwyd yn Sir Gaerfyrddin yn 2001.
S.T.E.P. II Prosiect Cam Cyntaf
Mae’r Prosiectau Hyfforddiant a Chyflogaeth â Chymorth (STEP) yn gweithio o Dre-ioan, Caerfyrddin. Darperir arian cyfatebol ar gyfer y prosiect hwn trwy Uned STEP yn Cross Hands
S.T.E.P III Trostre, Llanelli
Y 3edd Uned STEP yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ag anawsterau dysgu sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, o fewn ystod o raglenni, gyda’r lefel briodol o gynhaliaeth.
Canolfan Ddydd Tre-ioan
Lleolir Canolfan Tre-ioan yn Nhre-ioan o fewn cyrraedd hwylus i ganol tref Caerfyrddin. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn darparu gwasanaeth i oedolion a chanddynt anableddau dysgu a chorfforol. Mae’r Ganolfan yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac yn cynnwys cyfleusterau ar eu cyfer.
Canolfan Heol y Maenordy, Rhydaman
Mae Canolfan Heol y Maenordy, Rhydaman yn Ganolfan Ddydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae’n cynnig gwahanol gyfleoedd a gweithgareddau i bobl fel y gallant fanteisio ar gyfleusterau cymunedol a chyflogaeth â chymorth.
Maes Lliedi Day Centre
Maes Lliedi provides a service for adults with learning disabilities over 55 years in a relaxed atmosphere. The aim of the centre is to maintain people’s independence and skills within the community.