Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 

Rydym yn diogelu plant.  

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phlant mewn angen a'u teuluoedd er mwyn helpu plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial yn llawn.  Gall plant fod mewn angen oherwydd salwch, anabledd neu amgylchiadau.

Rydym yn cydnabod mai yn eu cartrefi eu hunain y mae plant yn cael y gofal gorau fel rheol.  Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl a lle mae'n rhaid symud plant i leoliadau eraill, rydym yn sicrhau bod plant yn cael gofal diogel ac addas.

Rydym yn credu mai plant a phobl ifanc yw ein dyfodol, a dylid eu parchu, eu gwerthfawrogi a gwrando arnynt.  Rydym yn sicrhau bod lles y plentyn yn gwbl ganolog i bopeth a wnawn ac yn cofio bod dyletswydd arnom i amddiffyn plant rhag niwed.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i adnabod anghenion a chynllunio, datblygu a chyflwyno gwasanaethau.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/9/2008