|
Mae’r ‘Sector Annibynnol’ yn cynnwys pob unigolyn cyflogedig a gwirfoddolwr sy’n gweithio i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, na chyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor Sir nac unrhyw wasanaeth statudol arall megis Ymddiriedolaeth GIG, y Bwrdd Iechyd Lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a AGGCC. Mae esiamplau yn cynnwys sefydliadau neu asiantaethau gofal preifat a gwirfoddol, cynorthwywyr/gofalwyr personol a gyflogir dan drefniadau Taliadau Uniongyrchol neu Gronfa Byw yn Annibynnol (ILF), gofalwyr maeth a gofalwyr Oedolion a Leolir. Fe ddylech ateb “ydym” i’r ddau gwestiwn canlynol cyn cyflwyno eich cais am hyfforddiant dan y RhDGGC:
• Ydych chi’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin? • Ydych chi’n weithiwr cyflogedig (neu’n wirfoddolwr) un o’r gwasanaethau canlynol: cartref gofal, gofal cartref, gofal dydd, gwasanaeth seibiant, byw â chymorth, gwasanaeth maeth, cynllun lleoli oedolion, cynorthwyydd personol a gyflogir dan drefniadau taliadau uniongyrchol neu Gronfa Byw’n Annibynnol, gwaith prosiect, gwaith cymunedol, gwasanaeth gwybodaeth, gofalwyr teulu a defnyddwyr gwasanaeth? |