English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/3/2010
Sut i Ganfod Cyrsiau Hyfforddi 

Cyrsiau
Bydd y camau canlynol yn eich cyfarwyddo wrth baratoi a chyflwyno eich cais am hyfforddiant:

• Calendr
• Enwebiadau
• Prosesu
• Newidiadau cyn y cwrs
• Yn y digwyddiad
• Gwybodaeth gyffredinol am y cwrs
• Ar ôl y digwyddiad

 

 Calendr  Top
Gosodir calendr o ddigwyddiadau hyfforddiant ar y wefan hon ym mis Mawrth bob blwyddyn.  Gellir cyrchu’r wybodaeth drwy’r brif adran lawrlwythiadau ar y safle neu drwy glicio’r cyswllt priodol.  Gofynnir i chi nodi nad oes dyddiadau na lleoliadau wedi’u cynnwys gyda rhai cyrsiau a restrir ar y calendr.  Hysbysir darparwyr am unrhyw ddyddiadau a lleoliadau nad ydynt wedi’u cadarnhau yn y calendr (neu ar gyfer unrhyw gyrsiau ychwanegol a drefnir yn ystod y flwyddyn) drwy gyfrwng taflen wybodaeth a ddosberthir i’r rheiny y mae eu manylion wedi’u cynnwys ar ein cronfa ddata o gysylltiadau.  Rydym yn cadw cronfa ddata  o enwau sefydliadau sy’n mynychu ein cyrsiau hyfforddiant, a byddwn yn fwy na pharod  i ychwanegu eich manylion at y rhestr hon os dymunwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hyfforddiant perthnasol. Am fanylion pellach, cliciwch yma.

 Enwebiadau  Top
Oherwydd bod galw mawr am hyfforddiant mae’r Uned Hyfforddi fel arfer yn derbyn mwy o enwebiadau ar gyfer cyrsiau nag y mae lle iddynt. Felly er bod mor deg â phosib wrth neilltuo llefydd ar gwrs ein polisi yw ‘y cyntaf i’r felin’.  Rydym hefyd yn ceisio neilltuo llefydd i gynifer â phosib o sefydliadau/gwasanaethau. Fel arfer ni fyddwn yn cynnig mwy na 2 le ar unrhyw gwrs i’r un sefydliad/gwasanaeth os na fydd angen llenwi llefydd gwag. Cyflwynir enwebiadau i’r Uned Hyfforddi drwy lenwi ffurflen gais. Rhaid i’r ffurflenni fod wedi’u cwblhau’n llawn ac wedi’u cymeradwyo a’u llofnodi gan reolwr y sawl a enwebwyd.  Ni ddylid anfon y ffurflen gais i’r Uned Hyfforddi heb fod yr holl fanylion y gofynnwyd amdanynt wedi’u nodi.

Dylai rheolwyr ac ymgeiswyr sicrhau bod y Ffurflen Gais yn cael ei hanfon i’r Uned Hyfforddi cyn gynted â phosib ar ôl i’r rheolwr ei chymeradwyo, ac yn sicr cyn y dyddiad cau.  Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu prosesu a bydd nwau’r ymgeiswyr yn cael eu cynnwys ar restr wrth gefn neu restr aros (p’un bynnag sydd ar gael). 

Mae sawl gwahanol ffordd o ddychwelyd Ffurflen Gais wedi’i llenwi i’r Uned Hyfforddi.  Y dewis ffordd yw e-bost, (o leiaf  un mis cyn dyddiad y cwrs) ond gall sefydliadau ddewis unrhyw gyfrwng y mynnont.  Fodd bynnag effeithlonrwydd gweinyddol sydd bwysicaf ym mhob achos, a dim ond ffurflenni cais wedi’u llenwi’n gyflawn fydd yn cael eu derbyn yn enwebiadau dilys ar gyfer digwyddiadau hyfforddiant.

 Prosesu  Top
Ar dderbyn ffurflen gais wedi’i llenwi bydd y staff yn gwirio bod yr holl fanylion wedi’u cynnwys. Dim ond ffurflenni sydd wedi’u llenwi’n gyflawn fydd yn cael eu prosesu. Bydd ffurflenni heb eu llenwi yn cael eu dychwelyd at y Rheolwr/ymgeisydd gwreiddiol.
Os ydych wedi nodi dewis ddyddiad ar gyfer cwrs byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig y dyddiad hwnnw i chi. Mae’n bosib fodd bynnag na fydd modd gwneud hynny bob amser oherwydd y lle sydd ar gael mewn rhai lleoliadau hyfforddiant neu derfynau a bennir gan leoliadau hyfforddiant.
Bydd yr Uned Hyfforddi yn llunio rhestr o’r cynrychiolwyr a bydd eu manylion yn cael eu cynnwys ar y system hyfforddi.  Bydd pob ffurflen gais a dderbynnir yn cael ei chadw mewn ffeil cwrs a fydd erbyn hynny wedi cael ei chofrestru ar y system hyfforddi fel ‘rhestr o’r cynrychiolwyr’ i fynychu’r hyfforddiant.  Er bod mor deg â phosib wrth ddelio ag enwebiadau, ein polisi yw neilltuo lle yn ôl ‘y cyntaf i’r felin’.  Rydym hefyd yn ceisio neilltuo llefydd i gynifer â phosib o sefydliadau/gwasanaethau.  Fel arfer ni fyddwn yn cynnig mwy na 2 le ar unrhyw gwrs i’r un sefydliad/gwasanaeth os nad oes angen llenwi llefydd gwag.
Bydd staff cynnal busnes yn anfon llythyrau at bawb sydd wedi llwyddo i gael lle yn cadarnhau hynny.  Ymdrechwn i roi gwybod i’r ymgeiswyr o fewn 10 diwrnod i ddyddiad cychwyn yr hyfforddiant.  Bydd yr ohebiaeth honno yn cynnwys y wybodaeth berthnasol am y cwrs ynghyd â ffurflen werthuso.  Yn anffodus ni allwn anfon llythyron at bobl sydd heb lwyddo i gael lle ar y cwrs.  Felly dylai pobl fynychu cwrs yn unig os ydynt wedi derbyn llythyr cadarnhad – nid yw enwebu aelod o staff yn gwarantu y bydd yn cael lle ar gwrs.

 Newidiadau cyn y cwrs  Top
Rydym yn derbyn y bydd adegau pan na all cynrychiolwyr fynychu digwyddiadau sydd wedi cael eu cadarnhau, e.e. oherwydd salwch.  Wedi derbyn llythyr yn cadarnhau lle rhaid i gynrychiolwyr a Rheolwyr roi gwybod yn ddi-oed i’r Uned Hyfforddi am unrhyw newidiadau ynghylch cynrychiolwyr gan ei bod yn bosib y bydd yn rhaid canslo digwyddiad os yw’r niferoedd yn cwympo’n is na nifer penodol.  Os oes lle wedi’i neilltuo ar ei gyfer dylai pob aelod o staff sylweddoli y dylai wneud pob ymdrech i fynychu’r hyfforddiant.  Hysbysir y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu am bob achos o fethiant i fynychu hyfforddiant.

Os bydd cynrychiolydd yn tynnu ei enw’n ôl o ddigwyddiad hyfforddiant, bydd y rhestr wrth gefn / rhestr aros yn cael ei defnyddio i gydweddu a slotio.  Hysbysir y cyfryw gynrychiolwyr ar lafar a chadarnheir hynny gan lythyr.  Ym mhob achos bydd y penderfyniadau o ran cydweddu a slotio yn cael eu gwneud gan yr Uned Hyfforddi, yn enwedig pan fo mwy o bobl nag y mae lle iddynt wedi gwneud cais gan beri nifer uwch o gynrychiolwyr.

 

 Yn y digwyddiad  Top
 Pan fo staff yn mynychu hyfforddiant rhaid iddynt lofnodi cofrestr bresenoldeb.  Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein cofnodion gan fod rhaid i ni hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch y niferoedd sy’n mynychu cyrsiau bob blwyddyn.  Pan fydd cyrsiau hyfforddiant diwrnod llawn a hanner diwrnod (09:30 - 16:00, neu 09:30 - 12:30, neu 13:30 - 16:30) yn cael eu cynnal mewn canol tref,  ni ddarperir cinio.  Mae diodydd (e.e. dŵr,  te a choffi) ar gael ym mhob lleoliad.  Rhoddir gwybodaeth i gynrychiolwyr ynghylch a ddarperir cinio ai peidio yn y llythyr yn cadarnhau lle.

 Gwybodaeth gyffredinol am y cwrs  Top

Mae’r Uned Hyfforddi yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau os bydd y nifer sydd i’w fynychu yn is na nifer penodol.  Hysbysir y cynrychiolwyr yn ddi-oed os bydd cwrs yn cael ei ganslo ac fe’u hysbysir ymhellach pan fydd yr hyfforddiant wedi cael ei aildrefnu.
Dylid gwneud ymholiadau ynghylch unrhyw gwrs i’r Uned Hyfforddi, a bydd y staff yn gallu rhoi cymorth gyda’r rhan fwyaf o ymholiadau.  Fodd bynnag oherwydd cyfrinachedd nid yw staff yr Uned Hyfforddi yn gallu trafod manylion y cynrychiolwyr ond gyda’r cynrychiolydd yn uniongyrchol neu ei reolwr llinell.

 Ar ôl y digwyddiad  Top
Byddwn yn cofnodi eich presenoldeb yn yr hyfforddiant ar ein system hyfforddiant.  Gwnawn hyn gan fod rhaid i ni roi gwybodaeth am hyfforddiant i Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Dim ond nifer y cynrychiolwyr sy’n cael ei nodi nid y wybodaeth ynghylch cynrychiolwyr neu sefydliadau unigol.