Dewch i wybod mwy am orffennol Sir Gaerfyrddin yn amgueddfa’r sir. Dangosir ystod o arteffactau rhyfeddol o esgyrn mamothiaid i aur Rhufeinig, ynghyd â thrysorau fel dreseli Cymreig a phaentiadau yn portreadu’r sir dros y blynyddoedd.
Roedd yr adeilad unwaith yn balas ar gyfer esgobion Tŷ Ddewi (1542 - 1974) a dyma'r man lle cyfieithwyd y Testament newydd i'r Gymraeg
am y tro cyntaf yn 1567. Gall ymwelwyr weld y capel tawel a phreifat a ddefnyddir gan yr esgobion hyd heddiw.
Mae’r amgueddfa yn cynnwys rhywbeth i gyffroi pawb. Mae ymweliadau
am ddim ac, ynghyd â’r casgliadau amrywiol a ddangosir, gall pobl
fwynhau gweithgareddau arbennig neu baned o goffi mewn amgylchedd hanesyddol. Gall teuluoedd fynd am dro o amgylch parc yr amgueddfa sydd â golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Tywi a Bryn Myrddin, mwynhau picnic neu brynu cofroddion yn y siop.
Mae cyfleusterau’r amgueddfa yn cynnwys:
• Maes parcio
• Pharcio i’r anabl
• Mynediad ar gyfer pobl anabl
• Dolen sain
• Toiledau
• Toiled hygyrch
• Lleoedd newid cewynnau babanod
• Caniateir cŵn tywys
• Mae diodydd ar gael
• Siop
• Ystafell ddarganfod i’r teulu
• Teithiau cerdded a safleoedd picnic
Yn agored o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ynghau dros gyfnod y Nadolig).
Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn: 10am – 4.30pm.