Mae'n cael ei gydnabod mai newid hinsawdd yw'r her ryngwladol fwyaf o ran datblygu cynaliadwy, a'r broblem mwyaf difrifol sy'n wynebu'r Byd. Mae newid hinsawdd yn sicr yn broblem fyd-eang ond mae hefyd yn fater y mae'n rhaid rhoi sylw iddo a gweithredu arno'n lleol.
Mae cyfraniad awdurdodau lleol yn allweddol o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy leihau'r ynni a ddefnyddir yn adeiladau'r Cyngor a'r tai a reolir gan y Cyngor, cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy ac isel mewn carbon, darparu opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, penderfynu ynghylch polisïau cynllunio defnydd tir, cynyddu ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a rhoi cyngor / cefnogaeth am yr hyn y gall pobl ei wneud.
Fe wnaethom ymrwymiad cyhoeddus i chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy lofnodi ‘Datganiad Cymru ar Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni’ yn 2005. Fe wnaethom gymeradwyo Strategaeth Newid Hinsawdd heriol yn 2006 sy'n rhoi fframwaith ar gyfer sicrhau bod ystyriaethau newid hinsawdd yn rhan annatod o'n holl wasanaethau a gweithgareddau.
Ein prif amcanion wrth ymateb i her newid hinsawdd yw:
- hyrwyddo datblygu cynaliadwy: drwy integreiddio camau gweithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd fel rhan ganolog o raglenni prif ffrwd ehangach ar gyfer datblygu cynaliadwy;
- lleihau'r effaith ar ein gweithgareddau: drwy leihau cymaint â phosibl ar y carbon deuocsid a'r nwyon tŷ gwydr eraill
- addasu i effeithiau anochel newid hinsawdd: drwy gydnabod effeithiau go iawn a phosibl newid hinsawdd ac ymyrryd i liniaru'r niwed a manteisio ar gyfleoedd.
Mae ein dull o fynd i'r afael ag effeithiau ein gweithgareddau ar newid hinsawdd wedi'i seilio ar gyfres o gamau cadarnhaol:
- gwneud ymrwymiad cyhoeddus i fynd i'r afael â newid hinsawdd;
- mabwysiadu strategaeth ar newid hinsawdd ac ynni cynaliadwy ledled y Cyngor, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau rheoli ac arferion gweithredol i'w chyflawni;
- hyrwyddo amcanion ynni cynaliadwy a newid hinsawdd drwy'r Strategaeth Gymunedol, cynlluniau defnydd tir a phrosesau gweithredol;
- mabwysiadu dull ‘bywyd cyfan’ i fuddsoddi a phrynu;
- integreiddio camau gweithredu ar gyfer newid hinsawdd ar draws yr holl feysydd gwasanaeth;
- ceisio cael llwyddiant cynnar, lle bydd camau'n ymwneud â newid hinsawdd yn arwain at ddod â manteision i amcanion eraill, yn enwedig o ran lleihau costau tymor hir.
Roedd astudiaeth gychwynnol a wnaed gan Asiantaeth Ynni Sir Gâr a fyddai'n cyfrannu i'r gwaith o lunio ein Strategaeth Newid Hinsawdd yn cyfrifo bod y carbon deuocsid a ollyngwyd yn 2004/05 yn 25,900 tunnell, oedd yn cynnwys:
| Adeiladau |
18,831 |
73 |
| Cerbydau |
4,600 |
18 |
| Teithio Busnes |
1,525 |
6 |
| Cymudo gan Staff |
944 |
3 |
Ein hadeiladau a thrafnidiaeth yw'r meysydd sy'n cael yr effaith mwyaf uniongyrchol, ond hefyd mae'r nwyon a ollyngir o'n tai Cyngor yn sylweddol sef tua 55,600 tunnell bob blwyddyn. Yr hyn sy'n ganolog i bob un o'r prif feysydd hyn yw'r defnydd o ynni.