English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trwyddedau Llogi Preifat 
private hire

Gall y cerbydau hyn fod yn geir salŵn, yn gerbydau amlbwrpas, neu’n fysiau mini. Gall cerbydau llogi preifat fod o unrhyw liw, ac nid oes ganddynt arwyddion ar y to. Gellir eu hadnabod trwy blât rhifau hirsgwar melyn ar y bympar cefn a sticer melyn siâp cylch ar y ddau ddrws blaen.

 Sut y gallaf wneud cais am Drwydded Cerbyd Llogi Preifat?

Rhaid mynd i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid i wneud cais. Bydd angen i chi gyflwyno’r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais (gyda’r holl adrannau wedi eu cwblhau)
  • Llyfr Cofrestru y cerbyd (VS)
  • Tystysgrif MOT (3 blynedd o’r dyddiad y cofrestrwyd y cerbyd gyntaf)
  • Y tâl am y drwydded.
  • Dogfen yswiriant am ddefnydd Llogi Preifat.
  • i’r brig

Sut y gallaf gael ffurflen gais?

Mae ffurflenni’r Cyngor ar gael yn y Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Caerfyrddin - 3 Heol Spilman 
Llanelli - Tŷ Elwyn
Rhydaman – y Llyfrgell 
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:

Ffôn: 01554 742303
Ffacs: 01267 229141
Neu fel arall, anfonwch neges e-bost atom: PublicProtection@sirgar.gov.uk.

Cyfeiriad yr Adain Drwyddedu yw:
Yr Adain Drwyddedu
Diogelu’r Cyhoedd
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE  

Beth yw Trwydded Gweithredwr Llogi Preifat?

Rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu cymryd archebion o flaen llaw ar gyfer cludo teithwyr mewn cerbydau Llogi Preifat feddu ar drwydded gan yr awdurdod. Yn gyffredinol, caiff y trwyddedau eu rhoi ymhen un diwrnod, oni bai fod angen cyfeirio’r cais at Bwyllgor Trwyddedu y Cyngor.

Sut y gallaf wneud cais?

Rhaid mynd i’r Swyddfa Drwyddedu er mwyn gwneud cais. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno’r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais (gyda’r holl Adrannau wedi eu cwblhau)
  • Y tâl am wneud cais.
  • i’r brig

Sut y gallaf gael ffurflen gais?

Mae ffurflenni’r Cyngor ar gael o’r Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Caerfyrddin - 3 Heol Spilman
Llanelli - Tŷ Elwyn
Rhydaman – y Llyfrgell
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:

Ffôn: 01554 742303
Ffacs: 01267 229141
Neu fel arall, anfonwch neges e-bost at: galwr@sirgar.gov.uk

Cyfeiriad yr Adain Drwyddedu yw:
Yr Adain Drwyddedu
Diogelu’r Cyhoedd
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE

Tudalen wedi ei diweddaru ar 02/10/2008
 
Manylion Cysyllt
 
carms direct

Ffôn: 01554 742303
Ffacs: 01267 229141
Neu fel arall, anfonwch neges e-bost at: galwr@sirgar.gov.uk