Mae popeth sydd angen ichi wybod am sut i ailgylchu eich sbwriel a lleihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i’w dirlenwi ar gael nawr ar www.ailgylchudrossirgar.com. Dilynwch y dolenni isod a mynd yn syth at y wybodaeth sydd ei angen arnoch.
Ewch yn syth i...
Rydym yn ailgylchu tua 48% o’n gwastraff ar hyn o bryd ond mae angen inni gynyddu hynny i 52% dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd hyn nid yn unig yn gwneud ein sir yn lanach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ond os methwn â chyrraedd y targedau hyn yna mae’n bosibl y byddwn yn wynebu dirwyon mawr. Ewch i’r wefan i weld beth gallwch chi wneud i’n helpu i gyrraedd y targed hwn.