Mae gan swyddogion Lles Anifeiliaid y Cyngor gyfrifoldeb am: roi cyngor ar agweddau trwyddedu anifeiliaid
Archwilio, a thrwyddedu, safleoedd sy'n destun i ddeddfwriaeth anifeiliaid; megis llety cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth, ac eraill; archwilio cwynion am les anifeiliaid yn y fath sefydliadau
Gweithredu'n ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle nad yw camau eraill yn llwyddo; ymchwilio i gwynion am weithgareddau anghyfreithlon.
Mae angen trwydded ar gyfer: Sefydliadau Marchogaeth, cadw anifeiliaid gwyllt peryglus, llety cŵn, llety cathod, sefydliadau bridio cŵn, a siopau anifeiliaid anwes. Gweler yr adran 'Lawrlwytho' isod am ffurflenni cais.
Byddwn yn rhoi trwydded i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn gweithredu'n unol â'r safonau a osodir. Archwilir y safleoedd trwyddedig fel mater o drefn o leiaf unwaith y flwyddyn. Os na fydd daliwr trwydded yn cydymffurfio â'r amodau a osodir, gall wynebu gweithredu ffurfiol os bydd camau eraill yn aflwyddiannus.
Dylech hefyd sicrhau fod gennych y caniatâd cynllunio priodol. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag is-adran cynllunio'r Cyngor Sir Gar.
| SEFYDLIADAU BRIDIO CŴN |
|
| Ffïoedd Milfeddyg |
£155.00 |
| Hyd at 10 gast |
£80.00 |
| Rhwng 11 a 25 gast |
£105.00 |
| Rhwng 26 a 50 gast |
£205.00 |
| Rhwng 51 a 80 gast |
£230.00 |
| Mwy na 80 gast |
£255.00 |
| SEFYDLIADAU MARCHOGAETH |
|
| Hyd at 10 ceffyl |
£205.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg |
| Rhwng 11 ac 20 ceffyl |
£225.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg |
| Rhwng 21 a 50 ceffyl |
£280.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg |
| Mwy na 50 ceffyl |
£355.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg |
| SIOPAU ANIFEILIAID ANWES |
£125.00 |
| ANIFEILIAID GWYLLT PERYGLUS |
£255.00 heb gynnwys ffïoedd milfeddyg |
| SEFYDLIADAU LLETYA |
|
| Un rhywogaeth |
£100.00 |
| Amrywiol rywogaethau |
£145.00 |
| Gwasanaeth Gofalu (5 ci/6 chath) |
£45.00 |
| TRWYDDED SW |
£300.00 heb gynnwys ffïoedd milfeddyg |