- Ydy eich busnes wedi paratoi ar gyfer tân neu TG yn methu?
- Ydy'r busnes wedi paratoi ar gyfer colli gweithiwr allweddol neu gyflenwr allweddol?
Bob blwyddyn, mae tarfu sylweddol o'r math hwn yn effeithio ar un busnes ym mhob pump.
Mae 80% o'r busnesau yr effeithir arnynt yn cau o fewn 18 mis.
Mae paratoi ar gyfer argyfwng yn hanfodol felly ar gyfer pob busnes, yn fusnes masnachol neu'n elusen, sydd am ddarparu gwasanaethau, parhau i fod yn gystadleuol ac amddiffyn staff. Rheoli Dilyniant Busnes yw'r cam hanfodol i amddiffyn anghenion sefydliad rhag y trychinebau lu sy'n wynebu busnesau y dyddiau hyn.
Yn ôl y Sefydliad Dilyniant Busnes, mae’n ymwneud â rhagweld digwyddiadau a fydd yn effeithio ar brosesau a swyddogaethau sy'n hanfodol i fusnes y sefydliad, a sicrhau bod yr ymateb i unrhyw ddigwyddiad wedi'i gynllunio a'i ymarfer. Bydd yr ymateb yn cyfuno rheoli adnoddau dynol, iechyd a diogelwch ynghyd â chysylltiadau cyhoeddus.
Hebddo, gallai trychineb arwain at y canlynol:
- colli gwaith i gystadleuwyr
- cadwyn gyflenwi yn methu
- colli enw da
- problemau adnoddau dynol
- rhwymedigaethau iechyd a diogelwch
- talu mwy am yswiriant
I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod: http://www.preparingforemergencies.co.uk/bcadvice/