Os gwrthodir eich cais am ganiatâd cynllunio neu os ydych yn anfodlon ar yr amodau a orfodwyd arnoch, cewch gyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio. Fodd bynnag, cyn ichi ystyried apelio, dylech ddarllen yn ofalus resymau'r Cyngor dros wrthod eich cais. Mae'n bosibl y gallwch drafod y mater â'r Cyngor a newid y cais i'w wneud yn fwy derbyniol. Os ydych yn newid eich cais ac yn ei ailgyflwyno cyn pen blwyddyn wedi iddo gael ei wrthod, ni fydd angen i chi dalu ffi arall. Cam olaf yw apêl bob amser. Mae 3 dull o gyflwyno apêl:
— Sylwadau ysgrifenedig (y dull rhataf, symlaf, mwyaf cyffredin)
— Gwrandawiad Anffurfiol (fforwm trafod) neu
— Ymchwiliad Cyhoeddus (croesholiad llawn)
Y dewis cyntaf yw'r un mwyaf cyffredin, yn enwedig ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid cartrefi a mân geisiadau eraill. Mae apeliadau mewn perthynas â cheisiadau sylweddol a manylach yn tueddu i gael eu penderfynu mewn gwrandawiad anffurfiol neu ymchwiliad cyhoeddus llawn.
Yn nodweddiadol, bydd datganiad ysgrifenedig yn cynnwys y canlynol: gwerthusiad o'r cynllun a'r materion, mapiau, cynlluniau a ffotograffau ond nid tystiolaeth lafar. Pa weithdrefn bynnag a ddefnyddir, bydd yr Arolygydd yn ymweld â'r safle i farnu pa effaith fydd eich cynnig yn ei chael ar yr ardal.
Os byddwch chi, y Cyngor neu'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwrthod cymryd rhan yn y weithdrefn ysgrifenedig, trefnir gwrandawiad neu ymchwiliad.
Mae'n rhaid cyflwyno pob apêl cyn pen 6 mis wedi dyddiad y penderfyniad.
Yr Arolygiaeth Gynllunio

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y mathau o apeliadau ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio
Mae'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio ar gael ar y rhyngrwyd drwy'r Porth Cynllunio, sef gwefan sy'n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ynghylch cynllunio.
— Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwaith achos cynllunio i chwilio am achos.
— Gallwch gyflwyno sylwadau ynghylch achos o fewn yr amserlen a bennir.
— Gallwch weld lleoliad y safle sy'n destun apêl.
— Gallwch hefyd weld penderfyniadau a wnaed ynghylch apeliadau a gyflwynwyd i'r Arolygiaeth.