 |
|
Mae Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Sir Gaerfyrddin yn Ymgynghoriaeth Rheoli Adeiladu Siartredig CIOB. |
} Gweld y newyddion diweddaraf ynghylch Rheoli Adeiladu
} Gweld ein rhestr Partneriaid
}

l Gwybodaeth ynghylch Rheoli Adeiladu
Yma cewch wybodaeth ynghylch:
hanes byr Rheoli Adeiladu, pwy ydym ni, beth rydym ni'n ei wneud a'n hamcanion, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol ynghylch dewis adeiladwr, cwestiynau cyffredin ac a oes angen rheoliadau adeiladu arnoch chi.
l Ceisiadau ar gyfer Rheoliadau Adeiladu
Mae'r tudalennau yn yr adran hon yn egluro'r broses gwneud cais. Hefyd gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a gweld beth yw'r ffioedd.
l Datblygu Busnes
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ein Cynllun Awdurdod Partner, Cynghreiriau Partneriaeth, Gwobrau Adeiladu, adeiladwyr sy'n enillwyr Gwobrau, Gwarant Cartref Newydd LABC a Latent Gold LABC.
l Domestig
Rydym yn cynnig cyngor ar lawer o agweddau ar waith adeiladu domestig gan gynnwys addasu atig, diogelwch trydanol, ffenestri a drysau newydd, adnewyddu elfennau thermol, waliau cydrannol, cynllun person cymwys, tystysgrifau perfformiad ynni ac adeiladau eithriedig.
l Adeiladwaith Peryglus
Mae'r term 'Adeiladwaith peryglus' yn ymwneud ag adeiladau neu rannau o adeiladau h.y. llechi neu deils rhydd, ond hefyd mae'n cynnwys pethau megis waliau, ffensys neu fyrddau gerddi. Mewn gwirionedd, unrhyw adeiladwaith a allai fod yn beryglus i bobl oherwydd ei gyflwr. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon.
l Dymchwel
Mae Deddf Adeiladu 7 Gorffennaf 1994 yn mynnu bod yr Awdurdod Lleol yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig am unrhyw waith dymchwel y bwriedir ei wneud. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw waith dymchwel adeilad cyfan neu ran o adeilad. Mae rhai eithriadau prin iawn. Gellir cael rhagor o gyngor ynghylch gwaith dymchwel ar y dudalen hon.
l Cartrefi ac Adeiladau Gwyrdd a'r Cod Cartrefi Cynaliadwy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i'w lawrlwytho ynghylch:
Gwella eich Cartref : Canllaw Newid Hinsawdd, Cartrefi Gwyrdd i'r Dyfodol, Cod Cartrefi Cynaliadwy a dolenni i ddatblygu cynaliadwy.
l Cyfarwyddyd Technegol
Yma gallwch weld y Dogfennau Cymeradwy, a'r nodiadau cyfarwyddyd cyffredinol eraill sydd ar gael.