Anogir awdurdodau cynllunio lleol i ymgynghori ynghylch rhestrau lleol a godir o restr ofynion a ddiffinnir yn genedlaethol a mabwysiadu'r rhestrau hynny. Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal ymgynghoriad ynghylch y rhestr leol arfaethedig ar gyfer gwahanol fathau o geisiadau. Bydd y rhestr leol arfaethedig a'r ffurflen sylwadau ar gael ar y wefan hon pan bennir dyddiad dechrau'r ymgynghori.
Y canlynol yw diben y trefniadau dilysu newydd:
l rhoi canllaw o'r cychwyn ynghylch y wybodaeth y gall fod ei hangen;
l galluogi'r awdurdod cynllunio lleol i roi sicrwydd i ymgeiswyr ynghylch pa wybodaeth sy'n ofynnol;
l galluogi'r awdurdod cynllunio lleol i gael yr holl wybodaeth sy'n angenrheidiol i benderfynu ar gais ac i ddrafftio'r caniatâd cynllunio a'r holl amodau;
l lleihau cymaint ag y bo modd yr angen am gyflwyno ymhellach wybodaeth ychwanegol er mwyn rhoi cyfle rhesymol i awdurdodau cynllunio benderfynu ar geisiadau; a
l gofalu bod cysondeb o ran y dull a arferir gan wahanol awdurdodau cynllunio lleol wrth gofrestru a dilysu ceisiadau ond gan gydnabod yr angen am amrywio sy'n briodol i amgylchiadau lleol.