Rydym yn ystyried diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn flaenoriaeth uchel yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r Adain Cadwraeth yn gweithio’n egnïol mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r gymuned i helpu i ddarparu amgylchedd o ansawdd uchel, sy’n cadw ei fioamrywiaeth, nodweddion tirluniol a threftadaeth hanesyddol/ddiwylliannol.
Bioamrywiaeth
Ystyr llythrennol hynny yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maen nhw’n dibynnu arnynt. Maent i’w gweld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr. Adeiladau Rhestredig.

Adeiladau rhestredig
Rydym yn darparu cyngor arbenigol ar y 1800 o adeiladau rhestredig yn y Sir - mae’r rhain yn amrywio o ffermdai bychain i blastai. Mae’r holl adeiladau hyn yn haeddu ystyriaeth arbennig pan gyflwynir cynigion datblygu allai effeithio eu cymeriad.
Ardaloedd Cadwraeth
Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol arbennig, sy’n bwysig oherwydd eu cymeriad a/neu eu hymddangosiad.

Cadwraeth Coed
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd coed i dreflun y sir ac yn gwneud Gorchmynion Cadw Coed (GCCion) i ddiogelu coed o werth amwynderol, gan roi blaenoriaeth i lwybrau traffig pwysig ledled y sir, safleoedd datblygu a sefyllfaoedd lle y mae coed pwysig mewn perygl.
Menter Treftadaeth Treflun (MTT)
 |
|
Cychwynnodd Menter Treflun Llanymddyfri a Llangadog ym mis Ebrill 2001 a daw i ben ym mis Mawrth 2011.
Ewch i’r we-dudalen hon i weld y lluniau ‘cyn ac wedyn’ o adeiladau ac eiddo a gwblhawyd yng Ngham 1. Mae Cam 2 ar waith ar hyn o bryd. |
Castell Caerfyrddin "Trwy’r Oesoedd"
|
Gwasgwch ar y ddelwedd i weld darluniad 3-D o Gastell Caerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin trwy’r oesoedd. (06:28) |
 |