Rydym ni yma i warchod iechyd y cyhoedd a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.
Mae'r pethau canlynol i gyd yn effeithio ar ein lles, yr aer rydym ni'n ei anadlu, y bwyd rydym ni'n ei fwyta, y dŵr rydym ni'n nofio ynddo, y strydoedd rydym ni'n byw ynddynt a'r llefydd rydym ni'n gweithio ynddynt.
Mae ein swyddogaethau o ran Iechyd yr Amgylchedd yn cynnwys:
- Cofrestru'r holl safleoedd bwyd
- Archwilio safleoedd o ran diogelwch bwyd
- Gorfodi deddfau Iechyd a Diogelwch yn y gwaith gan gynnwys projectau a dargedwyd o fewn rhaglen fit3 (iach i weithio, iach i fyw, iach i'r dyfodol)
- Ymchwilio i gwynion am sŵn o adeiladau domestig neu fasnachol
- Ymchwilio i broblemau'n ymwneud â mwg, llwch neu arogl
- Ymdrin â thir sydd wedi ei halogi
- Ymchwilio i achosion o glefydau heintus a'u rheoli.
Monitro ansawdd aer lleol, a rheoli drwy drwydded prosesau diwydiannol penodol a all fod yn niweidiol i ansawdd aer
Gwybodaeth Gyswllt:
Uned Iechyd y Cyhoedd
Diogelu'r Cyhoedd
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE
Ffôn: 01267 234567
E-bost: galw@sirgar.gov.uk