Grantiau Addasu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Grantiau Addasu 


Mae'r tîm Adfywio Ffisegol wedi cynnal sawl cynllun grant ar gyfer addasu adeiladau. Nod y grantiau  hyn yw cyfrannu at adfywiad ffisegol ac economaidd ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Cyflawnir hyn drwy gynnig cymorth grant i fusnesau gwledig y sector preifat i addasu adeiladau segur ar gyfer defnydd busnes.
Y cynllun mwyaf diweddar oedd y Cynllun Grantiau Addasiadau yng Nghefn Gwlad, a oedd yn werth £1.2m ac a gynhaliwyd o fis Medi 2009 tan fis Awst 2011. Mae'r cynllun poblogaidd hwn wedi helpu saith busnes, sy’n gweithio yn ardal Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr, i ariannu prosiectau addasu. Erbyn i’r cynllun grant hwn orffen bydd wedi cyfrannu at ehangu pum busnes presennol, creu dau fusnes newydd, diogelu 12.5 o swyddi llawn amser, a chreu 27 o swyddi llawn amser.

Gwasanaethau Busnes Penybanc
Derbyniodd Roger a Simone Broome grant o £30,378 drwy raglen grantiau gan Gyngor Sir Caerfyrddin i addasu hen sied loia segur yn gyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau a chynadleddau.Gwasanaethau Busnes Penybanc

Mae'r prosiect, a gostiodd £60,756, wedi galluogi Gwasanaethau Busnes Penybanc i ddarparu gweithgareddau, ynghyd â chyrsiau a digwyddiadau lle darperir gwasanaeth arlwyo llawn ar yr un pryd. Yn ogystal, mae'r busnes wedi gallu ehangu i farchnadoedd newydd drwy ddatblygu cyrsiau adeiladu tîm a chyrsiau hyfforddiant rheoli. Mae'r prosiect wedi arwain at greu un swydd llawn amser a diogelu’r  2.5 o swyddi a ddarperir eisoes gan y busnes.

Mae'r awdurdod wedi derbyn cyllid i gyflawni'r prosiect drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Eventus
Derbyniodd y pâr priod Phil England a Sharon Naylor Grant Addasiadau yng Nghefn Gwlad drwy raglen grantiau gan Eventus  - cyn i'r gwaith ddechrauGyngor Sir Caerfyrddin, a hynny ar gyfer gwneud gwaith adeiladu helaeth i hen ysgubor yn eu cartref yng Nghapel Isaac.

Mae'r ysgubor, a fu unwaith yn llaethdy a stabl, wedi ei thrawsnewid yn ddwy swyddfa gyda chegin fach ac ystafell ymolchi. Roedd angen ardal waith mwy addas ar y pâr er mwyn cynnal eu busnes llewyrchus sy’n trefnu digwyddiadau adeiladu timoedd ar hyd a lled Ewrop.

Eventus - ar ôl i'r gwaith i orffen

Maent bellach yn gweithio mewn swyddfeydd modern, moethus, a hynny mewn amgylchedd delfrydol, sef eu cartref, ar ôl iddynt dderbyn £20,000 tuag at y prosiect sy’n werth £50,000.

Roedd y Grant Addasiadau yng Nghefn Gwlad yn cynnwys arian Amcan Un Ewrop ac roedd yn rhan o Fenter Trefi a Phentrefi Strategol Cyngor Sir Caerfyrddin ac o'r Prif Gynllun Adfywio, gwerth £450m. Mae’r tîm yn cysylltu â phobl o bob cwr o’r wlad er mwyn trefnu gweithgareddau adeiladu tîm a diwrnodau cynadledda priodol yn unol ag anghenion a dymuniadau’r cleient.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/8/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Rhif ffôn: 01267 234567

Galw Sir Gâr - Carmarthenshire Direct