Cefn Gwlad Sir Gâr
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cefn Gwlad Sir Gâr 

 

Cefn Gwlad Sir Gaerfyrddin

Mae cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn cynnwys ardaloedd Taf, Tywi a Theifi a thref Caerfyrddin.

Cynllun Datblygu Gwledig

Mae llawer o'r cynlluniau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin yn cael eu hariannu gan y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) yn rhaglen gyllido 7 mlynedd a gynlluniwyd i gefnogi datblygiad cynaliadwy Cymru wledig. Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru a bydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer y cyfnod 2007-13.

Mae'r tîm Adfywio Ffisegol yn gweithio ar y prosiectau canlynol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig

1.  Adeiladau Diangen yng Nghefn Gwlad

Nod y prosiect yw cynorthwyo adfywio ffisegol ac economaidd gwledig Sir Gaerfyrddin, drwy gynnig cymorth grant i'r sector breifat, ar ffurf Grantiau Adeiladau Diangen yng Nghefn Gwlad. Bydd y Grantiau Adeiladau Diangen yng Nghefn Gwlad yn cynorthwyo i ddod ag adeiladau hen a segur yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn ôl i ddefnydd busnes, a fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd a diogelu swyddi sy'n bodoli eisoes. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr a fydd yn darparu manteision gwirioneddol i'r economi lleol o ran nifer ac ansawdd y swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd. I gael rhagor o wybodaeth am y grant cliciwch yma

2. Cefnogi Ffermwyr i Arallgyfeirio

Mae'r prosiect ar ffurf cynllun grant cyfalaf a fydd yn rhoi taliad unwaith yn unig i aelwydydd amaethyddol sy'n arallgyfeirio i faes nad yw'n ymwneud ag amaethyddiaeth.
Bydd grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer y canlynol:

  • Addasu adeiladau gwag
  • Prynu offer cyfalaf

Amcanion y cynllun grant hwn yw:

  • Cynnal a chynyddu incwm aelwydydd amaethyddol yn y Sir Gaerfyrddin wledig.
  • Darparu'r adnoddau cyfalaf angenrheidiol i alluogi teuluoedd amaethyddol i arallgyfeirio i faes nad yw'n ymwneud ag amaethyddiaeth.
  • Cadw pobl ifanc yn y diwydiant amaethyddol drwy eu helpu i ddatblygu ffynonellau incwm eraill a chyfleoedd cyflogaeth eraill.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma i fynd i’r tudalen grantiau

 

3. Atgyfnerthu Apêl y Sir Gaerfyrddin Wledig i Dwristiaid

Nod y grant yw atgyfnerthu statws Sir Gaerfyrddin fel prif gyrchfan i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn, a hynny drwy hyrwyddo a datblygu cynnyrch penodol. Mae'r cynllun ar agor i'r holl ficrofusnesau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant twristiaeth ar draws y Sir Gaerfyrddin wledig.
Mae tri grant ar gael o dan y cynllun hwn:

  • Diwallu Anghenion a Chyflawni Disgwyliadau Newidiol y Defnyddwyr
  • Cefnogi Arferion a Mentrau Busnes Twristiaeth sy'n Fwy Cydnaws â'r Amgylchedd
  • Canolbwyntiau Gwledig Nodedig

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma


4. Cynllun Gwella Porth Pentywyn

Bydd y cynllun gwelliannau amgylcheddol hwn yn dechrau ym mis Ebrill 2011 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2011. Mae'n rhan o raglen raddol o brosiectau i wella rôl Pentywyn fel cyrchfan i ymwelwyr ac i wella cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr rhwng Llanmilo a Phentywyn. 

 

Moroedd Glas

Yn ogystal â'r cynllun i wella’r porth, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid o'r rhaglen Moroedd Glas ar gyfer dylunio ac adeiladu promenâd, a fydd yn ymestyn o westy’r Beach i ben gorllewinol y traeth ym Mhentywyn. Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau yn Hydref 2011 gyda golwg ar ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2011.
Mae'r rhaglen Moroedd Glas wedi'i chynllunio i wella ansawdd y profiadau i ymwelwyr ar draethau cymwys yng Nghymru drwy reoli traethau yn effeithiol, mynd i'r afael â rheoli ymwelwyr a materion cadwraeth, a darparu neu wella seilwaith neu gyfleusterau.
Mae’r rhaglen Moroedd Glas (Gwella Traethau) yn rhan o brosiect Twristiaeth Arfordirol 'Amgylchedd ar gyfer Twf’ Croeso Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/10/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Vivienne Davies
Rheolwr Prosiect Adfywio Ffisegol

01267 242341
ViDavies@sirgar.gov.uk