English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Workways 
Workways

Yn dilyn llwyddiant Gweithffyrdd, Menter Cyflogaeth Trawsnewidiol Castell Nedd Port Talbot, mae cyllid wedi’i gael er mwyn cynnig cymorth yn ôl i’r gwaith i dros 9,000 o bobl economaidd anweithgar a di-waith tymor hir yn ne-orllewin Cymru.

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot ac ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Dinas a Sir Abertawe, mae prosiect Gweithffyrdd De-orllewin Cymru wedi derbyn £17 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy law Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y prosiect gwerth £25 miliwn yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag ymuno â’r farchnad lafur ac yn cysylltu pobl leol â busnesau, gan eu helpu i gael y profiad sy’n hanfodol er mwyn cael gwaith tymor hir.

Nodau

Helpu pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy drwy oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith ac ymchwilio i amrywiol asiantaethau cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.

Bydd Gweithffyrdd yn darparu’r canlynol :

Porth Cyflogaeth - Sicrhau bod modd cyrchu’r holl gymorth sydd ar gael

Cymorth Effeithiol gan Fentoriaid Cyngor a chyfarwyddyd un-i-un penodedig

Hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar swyddi Clustnodi cyrsiau a chymwysterau penodol

Cyswllt â Chyflogwyr  - Cynorthwyo cyflogwyr i gyflogi pobl leol

Cymorth Dychwelyd i’r Gwaith  - Pob agwedd ar dechnegau chwilio am waith a sesiynau Blas ar Waith

 

Neath Port Talbot CBC logo  Pembrokeshire CC logo  C&CSwansea logo  erdf logo

Tudalen wedi ei diweddaru ar 05/1/2012