English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Benthyciad Busnes 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i gychwyn busnesau newydd yn ogystal â datblygu busnesau presennol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys benthyciad busnes ar gyfradd ostyngol i fusnesau presennol a busnesau newydd yn y sectorau busnes canlynol:

Prosesu Bwyd                                      
Biotechnoleg/Gwyddor Bywyd
Adeiladu
Cemegion
Peirianneg Electronig/Peirianneg
Nwyddau Amgylcheddol
Diwydiannau Gwybodaeth
Gweithgynhyrchu
Peirianneg Perfformiad Uchel/Cerbydau
Cyfryngau
Twristiaeth
Prosesu Cynradd Heblaw Bwyd. 


Rhaid i'r ymgeiswyr fodloni'r amodau canlynol:

• Bod yn fusnes sydd wedi'i leoli neu a fydd yn cael ei leoli yn Sir Gaerfyrddin
• Bod yn fusnes sy'n cyflogi 250 neu lai o weithwyr

Gwahoddir busnesau i gyflwyno ceisiadau am:

Benthyciad Cychwyn Busnes hyd at £5,000 (gall busnesau newydd wneud cais cyn cychwyn neu hyd at 18 mis ar ôl cychwyn masnachu). Ni fydd y benthyciad yn fwy na 50% o'r costau cymwys, sy'n gysylltiedig ag uchafswm o £2,000 am bob swydd sy'n cael ei chreu. Y Benthyciad mwyaf yw £5,000 y busnes. Y Benthyciad lleiaf yw £1,000. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o gyllid y sector preifat ar gael i gefnogi'r cais am Fenthyciad. 

Benthyciad Datblygu Busnes  ar gyfer busnesau sydd wedi ennill eu plwyf. Ni fydd y benthyciad yn fwy na 50% o gostau cymwys y prosiect, a'r benthyciad mwyaf fydd £5,000/y benthyciad lleiaf fydd £1,000. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o gyllid y sector preifat ar gael i gefnogi'r cais am Fenthyciad. Bydd y Benthyciad yn gysylltiedig â'r swyddi fydd yn cael eu creu/eu gwarchod a throsiant uwch.

Ad-dalu
Gellir ad-dalu'r benthyciad dros gyfnod o 36 mis ar y mwyaf

Cyfradd Llog
Bydd y gyfradd llog yn cael ei gosod yn ôl beth fydd cyfradd sylfaenol y banc pan wneir y benthyciad.

SUT MAE GWNEUD CAIS

Cychwyn Busnes

• Ffurflen gais (rhaid ei chyflwyno trwy Ymgynghorydd Busnes sy'n gweithio ar Raglen Cychwyn Busnes Newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Sir Gaerfyrddin)
• Cynllun busnes 2 flynedd (a ddylai gynnwys datganiadau Llif Arian ac Elw a Cholled am 2 flynedd)
• Gwybodaeth ategol angenrheidiol e.e. datganiadau banc, cadarnhad o'r gorddrafft ac ati.

Busnesau presennol

• Ffurflen gais, a gyflwynir trwy Ymgynghorydd Busnes sy'n darparu cymorth o dan raglen Gwasanaeth Ymgynghorol Cyffredinol i Fusnesau - Llywodraeth Cynulliad Cymru
• Cynllun busnes (heb fod yn orfodol)
• Cyfrifon masnachu mwyaf diweddar (2 flynedd os yn bosib)
• Gwybodaeth ategol angenrheidiol e.e. datganiadau banc, cadarnhad o'r gorddrafft ac ati


COSTAU CYMWYS

Bydd y ddau fenthyciad ar gael ar gyfer:

• Refeniw megis rhent, cyflogau a marchnata
• Gwariant cyfalaf megis peiriannau, offer, cyfrifiaduron
• Mae eitemau ail law sydd â gwariant cyfalaf cymwys yn cael eu hystyried yn gymwys i gael Benthyciad 

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2009

 
Manylion Cysyllt
 

For further information and application forms either loan please contact:

Canolfan Fenter Llynnoedd Delta
Y Rhodfa
Llynnoedd Delta
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 2DS

Ffon: 01554 744325
E-bost- RAHarding@sirgar.gov.uk