Nod Cymorth i Fusnesau Sir Gaerfyrddin yw darparu cymorth ariannol tymor byr i fusnesau Sir Gaerfyrddin drwy ddefnyddio Benthyciadau Busnes tymor byr, gohirio rhenti a gohirio trethi/rhoi gostyngiad trethi. Bydd y tair elfen wahanol hyn i’r cymorth yn cael eu hasesu ar y cyd er mwyn rhoi i ymgeisydd busnes becyn a luniwyd yn benodol ar ei gyfer ac a fydd o gymorth uniongyrchol i'w lif arian dros y tymor byr.
Bwriedir i'r cynnyrch hwn gynorthwyo'r busnesau hynny sy'n talu trethi ac yr effeithiodd yr hinsawdd economaidd bresennol yn uniongyrchol arnynt sef busnesau sydd â phroblemau llif arian dros gyfnod penodol a byr ond sydd fel arall yn fusnesau cynaliadwy.
Gohirio Talu Trethi a Gostyngiad Treth
Os yw'r trethi yn elfen sylweddol o gostau cyffredinol y busnes, gall fod yn briodol ystyried gohirio taliad am gyfnod a gytunwyd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, byddai'r trethdalwr yn gallu, dros dro, ohirio talu'r rhandaliadau a gynlluniwyd.
Byddai cyfanswm y rhandaliadau a ohiriwyd yn daladwy ar ddiwedd y cyfnod gohirio, un ai mewn cyfandaliad neu dros y misoedd a oedd yn weddill yn y flwyddyn ariannol ac fel y cytunwyd ymlaen llaw.
Cymorth â Rhent
Gellir cynnig ad-drefnu taliadau ar gyfer ôl-ddyledion rhent a rhenti arfaethedig a gellir gwneud ad-daliadau dros gyfnod o hyd at 12 mis. Dim ond i safleoedd diwydiannol a masnachol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin y mae hyn yn berthnasol.
Cymorth â Benthyciadau
Gellir cynnig benthyciadau hyblyg a thymor byr i ymgeiswyr sy'n dangos bod ganddynt ofynion llif arian tymor byr. Bydd llog misol ar y prifswm a fenthycwyd yn cael ei dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gyda'r prifswm yn cael ei ad-dalu i Gyngor Sir Caerfyrddin cyn pen cyfnod y cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC) a'r ymgeisydd arno ac yn ôl rhaglen ad-daliadau hyblyg sy'n briodol i'r ymgeisydd.
Bydd y gyfradd llog 2% yn uwch na Chyfradd Sylfaenol y Banc (BBR) ar gyfer prifswm sydd o leiaf yn £5,000 ond nid yn fwy nag £20,000. Y cyfrifydd sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd sydd i bennu’r uchafswm sydd ei angen ar yr ymgeisydd a hynny er mwyn sicrhau bod y prifswm angenrheidiol yn ddigon ar gyfer anghenion llif arian y busnes.
Bydd y prifswm yn cael ei ad-dalu'n llawn ar ddiwedd y cyfnod a gytunwyd. Trwy gydol y cyfnod hwnnw bydd gan yr ymgeisydd Swyddog Datblygu Busnes CSC penodedig a fydd yn ymwneud ag ef/hi ar sail ymgynghorol.
Y Meini Prawf
• Mae'n rhaid i'r busnes fod yn drethdalwr yn Sir Gaerfyrddin.
• Dim ond Mentrau Bach a Chanolig eu Maint gaiff ymgeisio (sef mentrau sy'n cyflogi llai na 250 o bobl ac
sydd un ai â throsiant nad yw'n fwy na €50 miliwn neu â mantolen nad yw'n fwy na €43 miliwn)
• Nid ar gyfer gwariant cyfalaf y mae'r cymorth ariannol hwn. Rhaid dangos mai dim ond ar gyfer gofynion llif arian tymor byr y caiff ei ddefnyddio.
• Un cais yr un y caiff pob busnes ei gyflwyno.
• Rhaid i'r busnes fod wedi ei sefydlu ers mwy na 2 flynedd.
• Rhaid i'r cais gael ei gwblhau a'i ddilysu gan gyfrifydd yr ymgeisydd.
• Rhaid cyflwyno'r holl wybodaeth y gofynnir amdani cyn y gwneir unrhyw asesiad – ni ellir asesu ceisiadau anghyflawn a byddant yn cael eu dychwelyd.
• Rhaid i'r ymgeisydd brofi bod angen cymorth gan y Gronfa Benthyciadau ar sail Caledi a hefyd rhaid i'r ymgeisydd ddangos y gall ad-dalu'r benthyciad ar ddiwedd y cyfnod a gytunwyd.
• Rhaid i'r cwmni fod yn fodlon i CSC benodi, fel y gwêl yn dda a phan fo'n briodol, 3ydd parti annibynnol i gynorthwyo â'r asesu e.e. ymgynghorydd busnes/cyfrifydd annibynnol ac ati.
Canllawiau ynghylch y Ffurflen Gais
Er mwyn hwyluso'r broses asesu, mae CSC yn annog pob ymgeisydd i ddarparu cynifer o fanylion perthnasol ag y bo modd ac i sicrhau y darperir pob dim y gofynna’r rhestr wirio amdano.
Mae angen datganiad a chadarnhad gan gyfrifydd i bennu'r uchafswm i'w fenthyca a'r pecyn cymorth a thelerau ad-dalu gorau ar gyfer yr ymgeisydd – ni ellir asesu unrhyw gais hyd nes y bydd hyn wedi ei wneud.
Cynigir benthyciadau a phecynnau cymorth i ymgeiswyr pan fydd yn glir y gall yr ymgeisydd ad-dalu'r prifswm yn y cyfnod a gytunwyd – gwnewch yn sicr yr ymdrinnir â'r manylion am hyn yn glir ar y ffurflen gais, yn yr adran ariannol a'r adran ynghylch telerau masnachu.
Sylwch mai cyllid cyfyngedig sydd ar gael i ddarparu'r gwasanaeth hwn ac felly ymdrinnir â phob cais ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd yr holl gymorth gan CSC wedi ei glustnodi i gwmnïau ar unrhyw adeg, yna ymdrinnir â cheisiadau arfaethedig wrth i'r arian a fenthycwyd gael ei ad-dalu a gwneir hynny ar sail y dyddiad y daeth y ceisiadau i law yn wreiddiol.
Er y gwneir pob ymdrech i wneud y ffurflen mor ddealladwy a syml ag y bo modd, mae CSC yn annog cyfrifwyr neu ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Busnes yn uniongyrchol drwy ffonio 01267 242331 i gael eglurhad pellach am unrhyw fater. Ffoniwch 01267 242331 i gael ffurflen.