Cysylltiadau yn Sir Gaerfyrddin - Strategaeth ar gyfer Ffyniant
Mae Cysylltiadau yn Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno strategaeth ar gyfer ffyniant yn y Sir am y cyfnod hyd at 2015, gan ddangos sut y bydd yr holl bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud Sir Gaerfyrddin yn ardal lle mae llawer o gyfleoedd a thwf economaidd.
Fel rhan o'r adolygiad canol tymor a'r datblygiad yn ymwneud â Chysylltiadau yn Sir Gaerfyrddin, bu Partneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin yn cyflawni gwaith ymchwil ac yn ymgynghori â budd-ddeiliaid i lywio archwiliad ynghylch y cynnydd a wnaed a'r heriau sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin. Mae'r dadansoddiad, y gellir ei lawrlwytho isod, yn dangos bod Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cynnydd sylweddol ers 2000, o gymharu â'r bum mlynedd flaenorol ac mae Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen, creu busnesau newydd a lefelau cymhwyso ymhlith y gweithlu, wedi cynyddu.