English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Technium 

Rhwydwaith o ganolfannau arloesi yw Technium sy'n meithrin busnesau technoleg ifanc ac yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyfleusterau perthnasol i'w helpu nhw i lwyddo. Nod Technium yw darparu cymorth dwys i fusnesau technoleg sydd ar y gweill yng Nghymru a chynnig ateb 'glanio'n ysgafn' i fusnesau technoleg sy'n bwriadu ymuno â'r farchnad yng Nghymru neu'r Deyrnas Unedig.

Mae Technium yn darparu:-

  • Gofod deori o safon lle gellir cyrchu'r rhwydwaith ffôn a’r band eang masnachol.
  • Defnydd o ystafelloedd cyfarfodydd, ystafelloedd cynadleddau a gwasanaethau derbynfa.
  • Cymorth busnes cyffredinol ac arbenigol sy'n cael ei ddarparu drwy'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.
  • Cysylltiadau â’r byd academaidd i hwyluso'r cymorth ar gyfer gwaith Ymchwilio a Datblygu, dylunio a datblygu cynnyrch/proses newydd.
  • Defnydd o labordai ac offer technegol.

Mae amryw o opsiynau ar gael i gwmnïau sydd â diddordeb mewn defnyddio Technium. Mae'r rhain yn cynnwys rhentu uned benodol, rhentu lle i ddesg mewn uned a rennir, neu fynd yn rhith-denant drwy raglen Aelodaeth Gyswllt Technium.

Partneriaeth unigryw yw Technium rhwng yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, Prifysgol Cymru a'r sector preifat. Cefnogir y rhaglen gan arian Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.

Mae De-orllewin Cymru yn gartref i 6 chanolfan Technium, ac mae un o'r rhain (Technium Peirianneg Perfformiad) yn Sir Gaerfyrddin.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/9/2008