Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfleoedd datblygu enfawr i ddatblygwyr a busnesau a fyddai'n hoffi manteisio ar drefn grant hynod o ffafriol, sy'n cefnogi economi sy'n gwybod sut i weithio'n galed am ei harian.
Ein nod yw cynrychioli'ch holl anghenion buddsoddi. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda nifer o gyrff yn y sector preifat a chyhoeddus er mwyn diogelu'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch mewn bob maes. Rydym yn ceisio hyrwyddo datblygiad parhaus yr amgylchedd masnachol a'r amgylchedd fusnes yn Sir Gaerfyrddin ffyniannus, a sicrhau bod y Sir yn cadw'i hochr gystadleuol fel lleoliad gwych ar gyfer mewnfuddsoddi.
Mae'r meini prawf allweddol ar gyfer llwyddo i gyd wedi'u gosod:
- Y lefel uchaf o gyllid Ewropeaidd;
- Gweithlu medrus, hyblyg, parod;
- Safleoedd Datblygu Strategol ar hyd traffordd yr M4;
- Proses o wneud penderfyniadau yn gyflym drwy gyfrwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- Adnoddau Llywodraeth Cynulliad Cymru;
- Agwedd ragweithiol;
- Mae Sir Gaerfyrddin yn barod am fusnes - eich busnes chi.
Locations 4 Business

http://www.locations4business.com/europe/uk/wales/south-west-wales/carmarthenshire-county-council/