English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Busnes 

Creu Sir Gâr ffyniannus i bawb yw ein nod. I wneud hyn byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau allweddol sef creu swyddi, gwneud busnesau yn fwy cynhyrchiol, lleihau anweithgarwch economaidd a mynd i'r afael â mudo ymysg pobl ifanc.

Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfleoedd datblygu enfawr i ddatblygwyr a busnesau sy'n dymuno manteisio ar drefn grantiau ffafriol dros ben sy'n cefnogi economi sy'n gwybod sut i weithio'n galed am ei harian.
Darparu ar gyfer eich holl anghenion buddsoddi yw ein nod. I wneud hyn, rydym yn cydweithio â llawer o gyrff yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnoch ym mhob maes.


Ceisiwn hyrwyddo datblygiad parhaus yr amgylchedd masnach a busnes yn Sir Gaerfyrddin, sy'n sir ffyniannus, a sicrhau fod y sir yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn un o'r mannau gorau ar gyfer mewnfuddsoddi. 

Mae'r prif feini prawf ar gyfer llwyddiant yn eu lle:

• y lefel uchaf o gyllid Ewropeaidd;
• gweithlu medrus a hyblyg;
• safleoedd datblygu strategol ar gael ar hyd traffordd yr M4;
• proses sy'n hwyluso gwneud penderfyniadau'n gyflym drwy gyfrwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
• adnoddau Llywodraeth Cynulliad Cymru;
• agwedd ragweithiol.

Mae Sir Gaerfyrddin yn barod am fusnes - eich busnes chi


Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/11/2011

 
Manylion Cysyllt
 
Tel: 01267 242385
email the Business Section
cyf.le - developing people and business