Gwneud Trefniadau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwneud Trefniadau 

Seremoni Sifil

Os ydych yn dymuno priodi trwy seremoni sifil, hynny yw mewn swyddfa gofrestru neu adeilad arall wedi'i gymeradwyo ar gyfer priodasau sifil, yn gyntaf dylech gysylltu â Chofrestrydd Arolygol y rhanbarth lle rydych yn dymuno priodi. Cewch briodi mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu eiddo wedi'i gymeradwyo a ddewiswch yng Nghymru neu Loegr. Fodd bynnag, ar gyfer priodas mewn eiddo wedi'i gymeradwyo, bydd angen i chi hefyd wneud trefniadau yn y lleoliad dan sylw. Yn ogystal bydd angen i'r ddau ohonoch yn bersonol roi hysbysiad ffurfiol am briodas i gofrestrydd arolygol y rhanbarth(au) lle rydych yn byw.

Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru

Os ydych yn dymuno priodi yn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru - ac yn gyffredinol byddwch ond yn gallu gwneud hyn os ydych chi neu eich partner yn byw yn y plwyf - dylech siarad yn gyntaf â'r Ficer. Os yw ef yn gallu eich priodi, bydd yn trefnu cyhoeddi'r gostegion ar dri Sul cyn diwrnod eich seremoni neu'n trefnu rhoi trwydded gyffredin. Bydd y Ficer hefyd yn cofrestru'r briodas ac fel arfer nid oes angen i'r cofrestrydd arolygol lleol ymwneud â'r trefniadau.

Addolfannau Crefyddol Eraill

Os ydych yn dymuno priodi trwy seremoni grefyddol ond nid yn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru, yn gyntaf dylech drefnu gweld y gweinidog neu berson arall sydd â gofal dros briodasau yn yr adeilad. Fodd bynnag, fel arfer rhaid i'r Eglwys neu'r adeilad crefyddol dan sylw fod yn y rhanbarth cofrestru lle rydych chi neu eich partner yn byw. Bydd yn angenrheidiol hefyd i'r ddau ohonoch roi hysbysiad ffurfiol am briodas i gofrestrydd arolygol y rhanbarth(au) lle rydych yn byw. Efallai y bydd angen trefnu cofrestrydd hefyd.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008