Goleuadau Stryd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/10/2008
Goleuadau Stryd 

Mae'r tîm Goleuadau Stryd yn gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw oddeutu 23,500 o oleuadau stryd ar draws y sir.

Mae cyfrifoldeb ar y cyngor i sicrhau fod pob eitem o gelfi stryd sydd â golau ynddo (h.y. goleuadau ac arwyddion traffig ar briffyrdd wedi'u mabwysiadu) yn aros yn weithredol. Mae pob golau stryd ac arwydd traffig yn cael ei lanhau, ei wasanaethu, a'i brofi.

Newidir y bylbiau yn yr unedau yn rheolaidd. Ar ben hynny, gwneir prawf trydanol manwl bob pum mlynedd, yn unol â Rheoliadau'r Sefydliad Peirianyddion Trydanol.

Rydym yn arolygu'r holl oleuadau bob pythefnos, gan gofnodi, a chyflwyno adroddiad am, unrhyw nam sydd angen ei drwsio.  Os ydym yn derbyn adroddiad am unrhyw nam, rydym yn trefnu ei drwsio. Mae'r broses yn cynnwys archwilio achos y nam o fewn chwe diwrnod gwaith i dderbyn yr adroddiad, a, lle bo'n bosib, trwsio'r nam ar yr ymweliad cyntaf.

Bellach, gellwch gyflwyno adroddiad am broblem gyda golau stryd trwy lenwi'n Ffurflen Ar-lein Rhoi Gwybod am Oleuadau Stryd ar ochr dde'r dudalen.

Er mwyn ein helpu ni i ddelio â'r broblem, nodwch rif y golau (sydd i'w gael ar y polyn neu'r arwydd), a chyfeiriad yr adeilad cyferbyn, gan gynnwys ei rif, enw'r stryd, ac enw'r dref neu'r pentref.

 

 
Manylion Cysyllt
 

Carmarthenshire Direct

Tel: 01267 234567
Email: direct@carmarthenshire.gov.uk