Un o wasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin yw symud cerbydau sydd wedi'u gadael ar y ffyrdd.
Tybir fod cerbyd wedi'i adael:
Os nad yw wedi'i symud ers peth amser
os bydd y Dreth Gerbyd (Disg Treth) wedi dirwyn i ben
- os nad oes modd dod o hyd i'r perchennog neu'r ceidwad, neu os bydd y perchennog/ ceidwad yn methu ag ymateb i rybudd cyfreithiol
Ni ellir tybio fod cerbyd wedi'i adael dim ond ar sail ei gyflwr neu ei ymddangosiad a/neu'r ffaith nad yw wedi symud ers rhai wythnosau.
Byddai symud a chael gwared â cherbyd ar ôl dod o hyd i'r perchennog, ac yntau wedi cadarnhau ei fod yn gyfrifol am y cerbyd, yn cael ei drin fel dwyn eiddo preifat.
Bellach, gellwch ein hysbysu ar lein am gerbyd wedi'i adael trwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Rhoi Gwybod Ar-lein am Gerbyd wedi'i Adael
Ni ddylid defnyddio'r Ffurflen Ar-lein Rhoi Gwybod am Gerbyd wedi'i Adael ond am gerbydau wedi'u gadael.
Os ydych am wneud adroddiad am gerbyd heb ei drethu, cysylltwch â:-
Swyddfa Gofrestru Cerbydau
Cerbydau heb eu Trethu
Heol Long View
Abertawe
SA99 1AN
Os credwch fod y cerbyd wedi'i ddwyn, a wnewch chi roi gwybod i Heddlu Dyfed Powys ar y rhif isod os gwelwch yn dda.
Os bydd y cerbyd yn achosi rhwystr, eto, dylid rhoi gwybod i'r heddlu'n uniongyrchol.
Heddlu Dyfed Powys:
Llanelli - 01554 772222
Caerfyrddin - 01267 232000
Rhydaman - 01269 592222