English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/11/2011
Cwestiynau A Ofynnir Yn Fynych 

A oes gan Sir Gaerfyrddin ddigon o halen y gaeaf hwn?
Bydd gan y Cyngor gyflenwad o 16,500 tunnell fetrig o halen ar ddechrau'r gaeaf, sydd ddwywaith y cyflenwad oedd ar gael ar yr un adeg ddwy flynedd yn ôl, a chedwir y rhan fwyaf ohono o dan do mewn ysguboriau halen. Er bod hyn yn ymddangos yn llawer, gall y Cyngor ddefnyddio hyd at 1,000 o dunelli'r diwrnod adeg rhew ac eira difrifol pan fo angen graeanu'n barhaus. Yr argymhelliad yw bod awdurdodau lleol yn cadw digon o halen i raeanu'r ffyrdd am chwe diwrnod yn barhaus. Yn achos Sir Gaerfyrddin mae hyn yn cyfateb yn fras i 6,000 tunnell fetrig, sy'n golygu y bydd gennym bron deirgwaith cymaint ag a argymhellir fel isafswm. Ni allwn ni byth ddweud bod gennym ddigon o halen oherwydd ni wyddom beth fydd yn digwydd yn ystod y gaeaf, ond rydym wedi paratoi'n dda iawn.
Hefyd mae gan y Cyngor 1,050 o dunelli o raean cwar. Defnyddir graean pan fo'r tywydd yn wael iawn, ac mae 1,100 o finiau graean ledled y sir fel y gellir gwasgaru graean ar ffyrdd a phafinau lleol.
Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Gronfa Halen Cymru, sy'n penderfynu yn ôl yr angen faint o halen gaiff awdurdodau lleol pan fo'r tywydd yn arw.

A yw'r cyngor wedi paratoi ar gyfer y tywydd oer?
Ydyw. Mae ein Cynllun Cynnal a Chadw yn y Gaeaf yn gynllun sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n pennu'r blaenoriaethau gan fanylu ar sut rydym yn ymdrin â'r blaenoriaethau hynny. Ar ddechrau pob gaeaf mae gennym stoc lawn o halen ac rydym yn ychwanegu at hynny pan fydd angen. Caiff y cynllun ei adolygu'n flynyddol. Rydym yn cael y manylion diweddaraf am y tywydd gan y Swyddfa Dywydd bob dydd yn ogystal â'r rhagolygon am yr ychydig ddiwrnodau nesaf a'r rhagolygon am hyd at y 15 niwrnod nesaf.

Pryd mae'r timau graeanu yn gweithio? A ydyn nhw'n gweithio bob awr o'r dydd a'r nos?
Mae'r timau ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, a hynny bob diwrnod. Y tywydd sy'n pennu pryd y mae'r timau graeanu'n mynd allan, gan gynnwys gweithio'n hwyr y nos ac yn gynnar yn y bore. Rydym yn graeanu 935 o gilometrau yn ystod sifft, sef 27 y cant o'r ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin.

O ble mae'r Cyngor yn cael yr halen?
Salt Union, sy'n gwmni o Swydd Gaer, yw ein cyflenwr ni ynghyd â nifer mawr o'r awdurdodau lleol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill yn rhanbarthol, ynghyd â Llywodraeth Cymru, er mwyn cynnal y cyflenwadau.

Pam nad yw'r Cyngor yn graeanu pob stryd?
Byddai'n amhosibl graeanu pob stryd yn y sir. Rhoddir blaenoriaeth i'r cefnffyrdd a'r prif ffyrdd; mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd trên, garejis bysiau, llwybrau bysiau pwysig, ffyrdd ymuno, a mannau y gwyddys eu bod yn drafferthus.
Mewn tywydd eithafol rhoddir yr ail flaenoriaeth i strydoedd lle mae siopau, mannau lle mae trafferthion a damweiniau'n fynych (nad ydynt ar y llwybrau a gaiff brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.
Rwy'n siŵr fod trigolion y sir yn deall mai'r peth pwysicaf pan fydd pwysau ar gyflenwadau yw cadw'r prif ffyrdd yn glir er budd y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau bysiau, sicrhau bod cyflenwadau bwyd a thanwydd yn dal i gyrraedd, a lleihau'r perygl y digwydd damweiniau.
Rydym hefyd yn ymateb i achosion brys a byddwn yn ymdrin â mân ffyrdd pan fydd y tywydd a'r cyflenwad halen yn caniatáu inni wneud hynny.