Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth mewn amserlenni bysiau yn gywir ond mae'n bosibl y gall manylion ynghylch amserau, teithiau a phrisiau newid ar fyr rybudd. Ni all y cyhoeddwyr dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu newidiadau munud olaf. Cynghorir teithwyr i wirio manylion eu taith cyn teithio ac i fod yn yr arhosfan bysiau mewn da bryd yn unol â'r amser a nodwyd yn yr amserlen.
Darperir gwasanaethau bysiau lleol mewn dwy ffordd. Gallant fod:
• yn wasanaethau a ddarperir yn fasnachol gan y gweithredwr, sy'n golygu fod y gwasanaeth yn rhedeg heb unrhyw nawdd gan y Cyngor, a rheolir y teithiau, yr amserau a'r prisiau gan y cwmni.
• yn wasanaeth a weithredir ar ran y Cyngor Sir. Nid yw'r gwasanaethau noddedig hyn yn gallu cael eu darparu yn fasnachol gan y gweithredwyr, ond fe'u hystyrir yn angenrheidiol yn gymdeithasol gan y Cyngor. Y Cyngor Sir sy'n trefnu'r gwasanaethau, ac maent yn cael eu rhoi ar waith dan gontract gan gwmnïau bysiau lleol.
Mae'r teithiau sydd â z wrth eu hymyl yn yr amserlenni hyn yn cael eu gweithredu ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin.
Sylwadau a Chwynion
Os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch y gwasanaethau noddedig neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu gwynion, cysylltwch â'r Cyngor Sir. Y cyfeiriad yw:
Uned Drafnidiaeth Teithwyr, Cyngor Sir Caerfyrddin,
Parc Myrddin, Caerfyrddin, SA31 1HQ.
Rhif ffôn: 01267 234567
E-bost: TrafnidiaethGyhoeddus@sirgar.gov.uk
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwynion ynghylch gwasanaeth masnachol, dylech gysylltu â'r gweithredwr.
Os ydych o'r farn na ddeliwyd yn foddhaol â chwyn, gallwch fynd â'r mater ymhellach gyda'r Comisiynydd Traffig, sy'n gyfrifol am drwyddedu cwmnïau bysiau ac am gofrestru gwasanaethau bysiau lleol. Y cyfeiriad yw:
Y Comisiynydd Traffig, Swyddfa Ranbarthol Traffig Cymru,
38 Geogre Road, Edgbaston, Birmingham, B15 1PL.
Rhif ffôn: 0300 123 9000
www.vosa.gov.uk