Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru 
reduced prices

Mae’r rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn y Sir yn cysylltu â bron pob prif dref a phentref, ac yn cyrraedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyfrytaf.

Mae’r olygfa yng nghefn gwlad yn amrywio o drefi marchnad i bentrefi tawel sydd wedi’u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf hardd a dilychwin. Gallwch ymweld â chestyll hynafol sy’n rhan annatod o hanes yr ardal a chanolfannau sy’n arddangos hen grefftau traddodiadol, trefi sy’n cyfuno cyfleusterau siopa modern â nodweddion hanesyddol naturiol, ac amrywiaeth o atyniadau i deuluoedd ym mhob tywydd.

Ers cyflwyno Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru mae’n hawdd ymweld â’r llefydd hyn ar fws. Yn syml iawn rydych yn prynu’r tocyn ar y bws y byddwch yn teithio arno gyntaf a’i ddefnyddio i fynd a dod fel y mynnwch gydol y dydd. Mae’r tocyn yn ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro - byddwch yn synnu pa mor bell y gallwch deithio mewn diwrnod.

Gall y gwasanaethau sy’n y cyfarwyddiadur hwn eich cludo cyn belled â Dinbych-y-pysgod, Aberteifi neu Abertawe, ond mae’r Tocyn Crwydro yn caniatau i chi deithio ymhellach. Beth am fynd i arfordir Ceredigion am y dydd neu ymweld ag arfordir Gorllewin Sir Benfro?

Gofynnwch yn eich Canolfan Croeso agosaf am fanylion yr amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn. Cofiwch y bydd Tocyn Crwydro yn ddilys yn unig ar wasanaethau bws lleol - nid yw hynny yn cynnwys gwasanaethau sydd ar gael i plant ysgol yn unig, gwasanaethau Gwyn Williams 100/101/102, gwasanaeth G14 rhwng Llanymddyfri ac Aberhonddu, gwasanaeth National Express 508/528, gwasanaeth 701, gwasanaeth X26, neu gwasanaeth “Trawscambria” X40 rhwng Caerfyrddin ac Abertawe/Caerdydd.

Cofiwch fod eich Tocyn Crwydro yn caniatau teithio di gyfyng ar y dyddiad y prynir y tocyn ar y bysiau hynny sy’n rhan o’r cynllun, sy’n golygu y gallwch dorri eich taith yma ac acw fel y mynnwch.

Mae Tocyn Crwydro Diwrnod yn costi £6.00 i oedolion a £4.00 i blant. Fel bonws ychwanegol gall plant sy’n teithio gydag oedolyn sydd â Thocyn Crwydro Oedolyn brynu eu tocyn am £3.00 yn unig.

Cofiwch - mae’r Tocyn Crwydro yn hawdd i’w ddefnyddio ac ar gael ar y rhan fwyaf o fysiau. Gwnewch yn fawr o’ch amser rhydd. Tocyn Crwydro - Tocyn i Fwynhad.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/4/2010