Y gwasanaethau bysiau a weithredir ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin dros gyfnod y Pasg, 2012 (yn cynnwys gwasanaethau Bwcabus a Galw-a-Theithio, a gwasanaeth Parcio a Theithio Caerfyrddin)
Dydd Gwener y Groglith, 6 Ebrill 2012: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Gwener arferol ar hyd pob llwybr (ond ni fydd First Cymru yn gweithredu y teithiau cynnar y bore cymhorthdaledig ar wasanaethau 111 a 124).
Dydd Sadwrn, 7 Ebrill 2012: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol.
Dydd Sul, 8 Ebrill 2012: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sul arferol.
Dydd Llun y Pasg, 9 Ebrill 2012: Yr unig un o wasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn gweithredu ar y diwrnod hwn fydd amserlen Dydd Sul ar lwybrau 222 (Caerfyrddin – Pentywyn) a 227 (Caerfyrddin – Llan-y-bri)
Sylwch mai dim ond ar gyfer y teithiau a weithredir ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin y mae'r manylion uchod yn berthnasol. Dylai teithwyr gysylltu â'r gweithredwr bysiau i gadarnhau manylion y gwasanaethau bysiau masnachol, a'r gwasanaethau hynny a weithredir ar ran Awdurdodau Lleol eraill.