English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwasanaethau bws yn ystod gwyliau'r Nadolig 
08/12/2011 

Dyma'r trefniadau ar gyfer gwasanaethau bysiau a dendrir, sy'n cael eu gweithredu ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys gwasanaeth parcio a theithio Caerfyrddin, gwasanaeth Bwcabus a gwasanaethau Galw a Theithio Sir Gaerfyrddin:

• Dydd Sadwrn 24ain Rhagfyr 2011 – Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yn gorffen yn gynnar, fel arfer rhwng 19.00 a 20.00.  I gael manylion llawn, cysylltwch â'r cwmni bysiau.

• Dydd Sul 25ain Rhagfyr 2011 - DIM GWASANAETH

• Dydd Llun 26ain Rhagfyr 2011 - DIM GWASANAETH

• Dydd Iau 27ain Rhagfyr 2011 - Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sul arferol

• Dydd Mercher 28ain Rhagfyr 2011 - Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol

• Dydd Iau, 29ain Rhagfyr 2011 - Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol

• Dydd Gwener 30ain Rhagfyr 2011  - Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol

• Dydd Sadwrn 31ain Rhagfyr 2011 - Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yn gorffen yn gynnar, fel arfer rhwng 19.00 a 20.00.  I gael manylion llawn, cysylltwch â'r cwmni bysiau.

• Dydd Sul 1af Ionawr 2012 - DIM GWASANAETH

• Dydd Llun 2il Ionawr 2012 - Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sul arferol

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwasanaethau bysiau sy'n cael eu gweithredu yn fasnachol neu ar ran Cynghorau Sir eraill, cysylltwch â'r cwmni bysiau yn uniongyrchol neu ffoniwch Traveline Cymru 0871 200 22 33.

Mae'n rhaid i deithwyr sy'n dymuno archebu siwrneiau ar wasanaethau Galw a Theithio Sir Gaerfyrddin ar 24ain, 28ain, 29ain, 30ain a'r 31ain Rhagfyr ac ar ddydd Mercher 3ydd Ionawr wneud hynny drwy ffonio 0845 634 0661 neu 01267 228 326 erbyn 12pm ddydd Gwener 23ain Rhagfyr 2011.

Dylai teithwyr sy'n dymuno archebu siwrneiau ar wasanaeth Bwcabus yn ystod cyfnod y Nadolig nodi y gallai'r ganolfan alwadau fod ar agor am lai o oriau na'r arfer ar rai diwrnodau yn ystod cyfnod yr Ŵyl ond i gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01239 801 604.