Bws Mini'n Cysylltu Rheilffordd Calon Cymru Ag Atyniadau Twristiaeth Sir Gaerfyrddin
Bydd gwasanaeth bws mini newydd yn caniatáu i deithwyr Rheilffordd Calon Cymru gael mynediad hawdd i ystod o atyniadau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Bydd hyn yn cynnwys Parc Dinefwr (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Gerddi Aberglasne, Castell Dryslwyn (CADW) a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd bws mini 'Darganfod Dyffryn Tywi' yn cwrdd â theithwyr yng ngorsaf Llandeilo ac yn eu tywys nhw i'w lleoliad dewisedig ac yn eu dychwelyd nhw i'r orsaf drenau ar ddiwedd y dydd a bydd hyn yn digwydd bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn yn ystod mis Awst a mis Medi 2011.
Mae'n rhaid archebu lle ar y bws mini erbyn 2pm ar y diwrnod cyn teithio oherwydd nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Mae'r bws yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae tocyn drwy'r dydd yn costio £2 yn unig ac yn cynnig 50% o ostyngiad ar bris mynediad pob atyniad.
'Rydym wrth ein boddau i gael gweithio gyda'n partneriaid i gefnogi'r gwasanaeth hwn sydd ag angen mawr amdano' meddai Gary Davies, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Twristiaeth. 'Hyd yn hyn, mae cyrraedd yr atyniadau hyn heb gar wedi bod yn anodd ac rydym yn rhagweld y bydd galw mawr am y gwasanaeth.'
Gellir cael manylion ynghylch y gwasanaeth drwy fynd i: www.thebusthatmeetsthetrain.co.uk