English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Newidiadau i wasanaeth 222 

Mae Bysiau Ffoshelig wedi rhoi rhybudd eu bod yn tynnu'n ôl o gynnal gwasanaeth 222 yn y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bydd hyn yn dod i rym o 21 Chwefror 2011. Gweithredir y teithiau hyn yn "fasnachol" ac nid ydynt o dan reolaeth y Cyngor Sir. Bydd Bysiau Dyffryn Taf yn cymryd y gwasanaeth hwn drosodd, gan weithredu amserlen a fydd ychydig yn wahanol.

Bydd newidiadau pellach yn digwydd o 13 Mawrth 2011, gan fod Bysiau Ffoshelig hefyd wedi rhoi rhybudd ynghylch teithiau cynnar yn y bore, gyda'r hwyr a dydd Sul ar wasanaeth 222. Mae'r Cyngor Sir yn gobeithio cael rhywun arall i gymryd y gwasanaeth dydd Sul drosodd, ond yn anffodus nid oes unrhyw weithredwr arall wedi dangos diddordeb yn y gwasanaeth cynnar yn y bore na'r gwasanaeth gyda'r hwyr.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/3/2011