HYSBYSIAD PWYSIG: Yn anffodus ni fydd y Cynllun Adeiladwyr a Chrefftwyr Cysylltiedig yn cael ei weinyddu mwyach gan y Gwasanaethau Safonau Masnach o 1af Gorffennaf 2010 ymlaen.
Dalier sylw: mae'r Cynllun Tasgmyn a Garddwyr yn dal i fod ar waith - gweler isod:
Yn ddiweddar mae'r Gwasanaethau Safonau Masnach wedi ymdrin â nifer fawr o gŵynion ynghylch gwaith garddio / cynnal a chadw. Mae'r cŵynion yn cynnwys bod y gwaith heb fod o'r safon ofynnol a bod llawer gormod yn cael ei godi am y gwaith.
O ganlyniad penderfynodd y gwasanaeth fynd i'r afael â'r broblem hon drwy sefydlu system gofrestru lle byddai Tasgmyn a Garddwyr gonest yn ymrwymo i Gôd Ymarfer sy'n mynnu eu bod yn masnachu'n deg ac yn onest ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwaith papur a chodi pris rhesymol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio y bydd y rhestr hon o Dasgmyn a Garddwyr yn ddefnyddiol ichi. Dangosa'r rhestr enw masnachu, cyfeiriad masnachu, a manylion cyswllt ar gyfer pob aelod. Hefyd mae'n cynnwys disgrifiad o'r gwaith y mae'r masnachwr yn ei wneud, ynghyd â'r ardal y mae'n gweithio ynddi.
Rhestr aelodau y cynllun tasgmyn a garddwyr
Help with Downloads
• Mae'r ymrwymiadau a wnaed gan y masnachwyr wedi cael eu derbyn yn ddidwyll. Nid yw cynnwys masnachwr ar y gofrestr yn golygu bod y Cyngor yn gwarantu nac yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw agwedd ar y gwaith nac am unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r cwsmer.
• Mae llwyddiant y gofrestr yn dibynnu ar gael cymorth ac adborth gan y cwmser. A fyddech cystal â llenwi'r ffurflen adborth y bydd y masnachwr cofrestredig yn ei chynnig ichi, neu rhowch wybod inni os na fydd y masnachwr yn gwneud hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y rhestr cysylltwch â'r Gwasanaethau Safonau Masnach drwy ffonio 01554 742306 neu drwy anfon neges e-bost at safonaumasnach@sirgar.gov.uk