Y Cyfrifiad yw’r holiadur mwyaf cynhwysfawr o ran poblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae’n ceisio cyfri’r holl bobl a chartrefi ar yr un pryd. Mae’r Cyfrifiad yn gosod cwestiynau craidd sy’n galluogi cymhariaeth rhwng gwahanol ardaloedd o’r wlad â grwpiau gwahanol o bobl.
Mae’r wybodaeth o’r Cyfrifiad yn galluogi llywodraeth ganolog a lleol i dargedu adnoddau a chynllunio gwasanaethau effeithiol. Mae hefyd yn rhoi ystod eang o wybodaeth demograffig, cymdeithasol ac economaidd a ellir ei ddefnyddio gan wasanaethau cyhoeddus eraill, sectorau busnes ac academaidd a’r gymuned.
Mae’r cyfrifiad wedi cymryd lle bob 10 mlynedd ers 1801, ond am eithriad yn 1941. Cynhaliwyd y Cyfrifiad diweddaraf ar 27 Mawrth 2011.
Ewch yn syth i...