Siarter y Cwsmer
Ein haddewidion i chi…
Byddwn yn:
- Trin ein cwsmeriaid yn yr un modd ag yr hoffem ni gael ein trin
- Cadw ein haddewidion
- Rhoi gwybod i chi pan fydd pethau’n mynd o chwith
- Ymddwyn mewn modd proffesiynol a chwrtais bob amser
- Hyfforddi ein gweithwyr fel y gallant eich helpu chi yn y ffordd orau
- Trin pawb yn yr un modd, beth bynnag fo eu hamgylchiadau personol, dewis iaith neu anableddau
- Ymchwilio i unrhyw gwynion a wneir ynghylch ein gwasanaethau, a rhoi ymateb llawn ar ôl ystyried y mater
- Ceisio eich barn yn rheolaidd a gwrando arno
- Sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i gymaint o bobl â phosibl
Gofynnwn i chi:
- Roi’r wybodaeth y mae angen arnom i’ch helpu
- Rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar eich cyfer
- Rhoi gwybod inni os nad ydych yn gallu dod i gyfarfod ar amser
- Trin pob un o’n gweithwyr â pharch ac urddas
- Ein helpu i wella drwy gynnig eich sylwadau ac awgrymiadau inni
- Rhoi gwybod inni os ydym wedi rhagori ar eich disgwyliadau fel y gallwn diolch I’n gweithwyr
Cysylltu â ni
Ffon: 01267 234567
Testun: 07892 345678
Ebost:
direct@sirgar.gov.uk
Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/5/2012