Mae Galw Sir Gâr yn galluogi holl gwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin i gael mynediad i amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor a chael gwybodaeth amdanynt.
P'un a yw'n well gennych gysylltu â gwasanaethau'r cyngor ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb-yn-wyneb, mae Galw Sir Gâr yn rhoi mwy o ddewis ichi a mwy o oriau agor.
Mae Galw Sir Gâr yn delio â 482,000 o ymholiadau cwsmeriaid bob blwyddyn.
Mae staff cyfeillgar a phroffesiynol ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yn delio â llawer o'ch galwadau ffôn i'r Cyngor a nhw sy'n eich cyfarch pan fyddwch yn dod i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Bydd pob un o'n tîm yn ceisio eich helpu gyda'ch ymholiadau neu'n rhoi cyngor ichi am asiantaethau eraill a allai fod o gymorth ichi.
Gallwn ni eich helpu... dros y ffôn neu drwy e-bost
Mae Galw Sir Gâr yn delio ag amrywiaeth o ymholiadau ynghylch gwasanaethau’r cyngor dros y ffôn a thrwy e-bost. Mae ein Swyddogion Cwsmeriaid cyfeillgar a gwybodus yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin ac maent yn barod i helpu i ateb eich ymholiadau.
Gallai eich galwad gael ei recordio yn rhan o'n hymrwymiad i hyfforddi, archwilio a sicrhau ansawdd.
Cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 234567 neu
drwy e-bost: galw@sirgar.gov.uk
Oriau agor
Mae’r Cyngor ar agor i ateb eich galwadau a darllen eich e-byst rhwng 8:30am a 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rydym ar gau drwy'r dydd pan fydd Gwyliau Cyhoeddus. I weld rhestr o’r dyddiadau pryd y byddwn ar gau yn 2012, cliciwch yma.
Nodwch fod y gwasanaeth yn dawelach rhwng 4.30pm a 6.00pm. Dydd Llun yw ein diwrnod prysuraf, yn enwedig yn y bore, ac mae’r diwrnodau gwaith cyntaf ar ôl gwyliau cyhoeddus yn brysur iawn fel arfer hefyd.
Gallwn ni eich helpu…. ...Dewch i’n gweld.
Mae ein Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn lleoliadau cyfleus ledled y Sir. Gall staff mewn unrhyw un o’n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu i ddelio â’ch ymholiadau ynghylch holl wasanaethau’r Cyngor a gellir ateb y rhan fwyaf o ymholiadau heb fod angen eu cyfeirio at swyddog arbenigol neu swyddfa arall yn y Cyngor.
Mae’r tair Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar agor rhwng 8.45am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.45 a 4.30pm ar ddydd Gwener.
Rydym ar gau ar Wyliau Banc. Yn ogystal, rydym ar gau ar ddydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 8.45am a 1.00pm ar gyfer hyfforddiant staff.
I weld rhestr o’r dyddiadau pryd y byddwn ar gau yn 2012, cliciwch yma.
Lleoliadau Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid
Nod ein holl ganolfannau yw cynnig mynediad hwylus i gwsmeriaid ac mae cyfleusterau ar gyfer pobl â nam ar eu clyw, ystafelloedd cyfweld preifat, mannau aros cyfforddus, mynediad i wasanaeth cyfieithu ac offer chwarae i blant.
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman,
Neuadd y Dref, Ffordd Iscennen, Rhydaman, SA18 3BE
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin,
3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli,
Tŷ Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli, SA15 3AP
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Gynlluniau o Leoliadau'r Swyddfeydd
Y Safonau Gwasanaeth
Rydym wedi pennu safonau gwasanaeth penodol ar gyfer Galw Sir Gâr. Bwriad y Safonau yw rhoi gwybod i chi am y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym, ac rydym yn gobeithio y byddant yn ddefnyddiol ichi. Byddwn yn monitro ein perfformiad drwy ei gymharu â'r safonau hyn i sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaethau rhagorol ichi, ac os na fyddwn, am ryw reswm, yn gallu cyrraedd y safon byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
I weld ein safonau gwasanaeth, cliciwch yma.
I weld ein Siarter Cwsmeriaid, cliciwch yma.
Sut rydym ni’n gwneud?
Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid, mae Galw Sir Gâr yn cynnal ymarferion monitro ac arolygon i gasglu data am ofynion cwsmeriaid a lefelau boddhad ynghylch y gwasanaeth yn gyffredinol.
Os hoffech wybod sut rydym ni'n gwneud edrychwch ar y dudalen sy’n rhoi ffigyrau perfformiad ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid Galw Sir Gâr.
Adborth gan Gwsmeriaid
Os hoffech gael gwybod sut rydym wedi gwella’r gwasanaeth, edrychwch ar ein tudalen ynghylch adborth gan gwsmeriaid.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu adborth ynghylch ein gwasanaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. Hoffem gael eich adborth neu’ch sylwadau.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Rydym am i chi fod yn fodlon ar y gwasanaeth rydych yn ei gael gennym. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon, mynnwch air ag Arweinydd y Tîm sydd ar ddyletswydd a fydd yn edrych ar y mater ac yn gwneud ei orau glas i’w ddatrys. Fel arall, gallwch gysylltu ag aelod o Dîm Rheoli y Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Os nad ydych yn fodlon o hyd ar y canlyniad, gallwch wneud cwyn drwy ddilyn gweithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth y Cyngor.