Y Cyngor yw un o'r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o weithwyr sy'n darparu gwasanaethau ar draws sir wledig i boblogaeth o ryw 180,500.
Y Cyngor
Mae'r Cyngor yn cynnwys 74 o Gynghorwyr etholedig, o amrywiaeth o grwpiau Gwleidyddol, sy'n cynrychioli 58 Ward Etholiadol. Maent fel arfer yn cwrdd ar ffurf Cyngor bob mis, a nhw sy'n gwneud y penderfyniadau ac yn cytuno ar bolisïau'r Cyngor, ei gyllideb a'i flaenoriaethau o ran gwariant.
I gael disgrifiad cryno o sut mae strwythur gwneud penderfyniadau'r Cyngor yn gweithredu, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Strwythyr Gwneud Penderfyniadau
Y Bwrdd Gweithredol
Deg o aelodau'r Cyngor sydd ar y Bwrdd Gweithredol, ac maent yn cynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae'r Arweinydd yn cael ei benodi gan y Cyngor ac mae ef / hi yn penodi aelodau y Bwrdd Gweithredol.
Y Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am wneud mwyafrif penderfyniadau pwysig y Cyngor a phenderfynu sut mae defnyddio hadnoddau i ddarparu gwasanaethau i'r sir. Aelodau'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau oddi mewn i feysydd penodol o ddiddordeb (a elwir yn bortffolios). I gael gwybodaeth am bortffolios aelodau’r Bwrdd Gweithredol, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Aelodau y Bwrdd Gweithredol au Bortffolios
Craffu
Mae'r Cyngor wedi sefydlu 5 Pwyllgor Craffu thematig o aelodau anweithredol at ddibenion trosolwg a chraffu. Tasg pob pwyllgor yw herio a dylanwadu ar ddatblygiad polisïau'r cyngor, helpu i wella a chynnal perfformiad gwasanaethau'r Cyngor, a galw'r Bwrdd Gweithredol i gyfrif. Mae gan bob Pwyllgor ei raglen waith ei hun.
Os hoffech wybod pa Gynghorwyr sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgorau Craffu cliciwch yma: Aelodaeth y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau'r Cyngor. Mae'r swyddogaeth Graffu yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod polisïau'r Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau cyfredol, o ran hyrwyddo effeithlonrwydd ac yn annog gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol.
Y Tîm Rheoli Corfforaethol
Y Tîm Rheoli Corfforaethol, dan arweiniad y Prif Weithredwr, sy'n goruchwylio gweithrediad gwasanaethau'r cyngor o ddydd i ddydd.
Mae 6 Chyfarwyddiaeth yn Strwythur Corfforaethol y Cyngor:-
Y Prif Weithredwr
Addysg a Gwasanaethau Plant
Adfywio a Hamdden
Adnoddau
Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Y Gwasanaethau Technegol
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Adrannau’r Cyngor
Cynnal y Broses Ddemocrataidd o wneud Penderfyniadau
Uned y Gwasanaethau Democrataidd sy'n gweinyddu cyfarfodydd y Cyngor, y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau'r Cyngor, gan gynhyrchu agendâu cyfarfodydd, mynychu cyfarfodydd a chofnodi'r penderfyniadau a wneir, yn ogystal â rhoi cyngor ar y gyfraith a'r dull o gynnal cyfarfodydd i Gynghorwyr, swyddogion a'r cyhoedd. Mae'r uned hefyd yn rhoi cefnogaeth weinyddol i bob un o'r 74 Cynghorydd.
Bydd yr uned yn eich cynghori ar eich hawliau i fynychu cyfarfodydd a sut mae mynd ati i gyflwyno deisebau neu unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych ynghylch sut mae'r Cyngor a'i Bwyllgorau'n gweithio.
Cysylltwch â ni os bydd gennych gwestiwn am broses y Cyngor o wneud penderfyniadau:
Uned y Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Caerfyrddin,
Neuadd y Sir, Caerfyrddin,
SA31 1JP (Ffôn: 01267-224028)
E-bost: GwasanaethauDemocrataidd@sirgar.gov.uk