Mae hefyd gennych hawl i weld ffilm ohonoch chi a recordiwyd gan systemau Teledu Cylch Cyfyng (TCC) a reolir gan y Cyngor.
Gyda rhai eithriadau, os rydym yn meddu arno, gallwn ddarparu o ffilm TCC sydd wedi recordio lluniau ohonoch.
Mae ceisiadau am ffilmiau TCC yn cael eu hymdrin yn yr un modd â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth eraill. Rhaid felly gwneud cais ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Beth bynnag, dylid nodi fod rhaid talu ffi o £10.00 ymhob achos, yn ogystal â darparu’r manylion isod i’n galluogi i chwilio am unrhyw luniau sydd yn ein meddiant:
- Lleoliad y system TCC
- Yr amser a’r dyddiad a gredwch y cafodd y lluniau eu recordio
- Ffotograff ohonoch a oedd yn un diweddar pan recordiwyd y lluniau
Fyddai hefyd o gymorth petai fodd i chi gynnwys unrhyw wybodaeth arall a all ein cynorthwyo i ddod o hyd i’r lluniau (e.e. unrhyw ddilledyn hawdd ei adnabod a wisgwyd gennych chi ar y pryd). Gall hefyd fod angen fwy o wybodaeth arnon ni i gadarnhau pwy ydych chi.