Yn ogystal â’r wybodaeth a geir ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch cynllunio argyfwng, cyfeiriwch hefyd at y llyfryn: ‘Paratoi at Argyfwng – Beth sydd angen i chi wybod’
Dosbarthwyd gan y llywodraeth i bob cartref yn y DU, yn Awst 2004. Mae’r llyfryn yn cynnwys cyngor ymarferol ar y camau y gallwch eu cymryd i’ch helpu’ch hun a’ch teulu pe bai argyfwng yn digwydd.
Mae yna wefan yn cyd-fynd â’r llyfryn sy’n rhoi cyngor ar-lein, yn cynnwys:
- Canllaw ar sut i baratoi at amryw o argyfyngau a allai ddigwydd.
- Beth i’w wneud pe bai argyfwng yn digwydd.
- Beth y mae’r llywodraeth yn ei wneud i amddiffyn y wlad.