Wrth lenwi'r Ffurflen Cofrestru Etholiadol cofiwch gynnwys pob un sy'n byw yn eich cartref sy'n gymwys i bleidleisio. Dyma'r unigolion sy'n gymwys:
- Dinasyddion Prydain
- Dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
- Dinasyddion y Gymanwlad sy'n gymwys (gweler y rhestr isod)
- Dinasyddion Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (hefyd gweler y rhestr isod)
Rhestr o Wledydd y Gymanwlad a Thiriogaethau Tramor Prydain sy'n gymwys
Rhaid i'r holl breswylwyr o'r Gwledydd canlynol gofrestru.
Tiriogaethau Tramor Prydain
Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd
Rhaid i ddinasyddion yr aelod wladwriaethau canlynol o'r Undeb Ewropeaidd gofrestru fel pleidleiswyr, ond cânt eu cofrestru fel pleidleiswyr llywodraeth leol yn unig (oni bai eu bod hefyd yn ddinasyddion y Gymanwlad megis dinasyddion Cyprus a Malta, neu'n ddinasyddion Gwladwriaeth Iwerddon, sy'n gallu pleidleisio ym mhob etholiad). Golyga hyn fod Dinasyddion Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd yn gallu pleidleisio mewn etholiadau a gynhelir ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynghorau Sir a Chymuned ond nid yn Etholiadau Seneddol y DU. Mewn perthynas ag Etholiad Seneddol Ewrop gall y Dinasyddion hyn wneud cais i bleidleisio o'u cyfeiriad yn y Sir yn hytrach nag o'u Haelod Wladwriaeth. Anfonir y ffurflen gais berthnasol i'r trigolion dan sylw cyn Etholiad Seneddol Ewrop a gynhelir ym mis Mehefin, 2009.
Hong Kong
Ers ei throsglwyddo i sofraniaeth Tsieina ar 1 Gorffennaf 1997, cafodd Hong Kong ei dileu o restr Tiriogaethau Tramor Prydain. O ganlyniad, nid yw cyn-breswylwyr Hong Kong yn ddinasyddion cymwys yn y Gymanwlad yn rhinwedd eu preswyliaeth yn Hong Kong gan nad yw Tsieineaidd Hong Kong yn genedligrwydd bellach.
Os yw etholwr yn datgan mai Tsieineaidd Hong Kong yw ei genedligrwydd, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol arfer ei bwerau i fynnu tystiolaeth o genedligrwydd gwirioneddol yr etholwr a chadarnhau pa fath o basbort sydd ganddo/ganddi.
Mae unrhyw un o gyn-breswylwyr Hong Kong sy'n ddeiliad pasbort Tiriogaethau Dibynnol Prydain, Dinasyddion Prydain (Dramor) neu Ddinasyddion Tramor Prydain yn bodloni'r meini prawf cenedligrwydd ar gyfer pob etholiad yn y Deyrnas Unedig.
Tsieinead yw unrhyw un o gyn-breswylwyr Hong Kong sydd yn ddeiliad pasbort Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Tsieina yn unig ac ni chaiff gofrestru.