Archwilio sut y gellir addasu'r rhwydwaith goleuadau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin drwy roi cynllun goleuo am ran o'r nos yn unig neu gynllun tebyg ar waith, gyda golwg ar nodi ffyrdd o arbed ynni ac arian.
Pwy sy'n Ymgynghori?
Is-adran y Gwasanaethau Stryd
Adran y Gwasanaethau Technegol
Cyngor Sir Caerfyrddin
A pham?
Mae Pwyllgor Craffu - yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar rwydwaith goleuadau cyhoeddus y sir ac archwilio a ellid goleuo'r strydoedd am ran o'r nos yn unig er mwyn arbed ynni ac arian.
Mae chwe aelod o Bwyllgor Craffu - yr Amgylchedd yn rhan o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sef: y Cynghorydd Jim Jones (cadeirydd), y Cynghorydd Peter Cooper, y Cynghorydd Mari Davies, y Cynghorydd Siân Thomas, y Cynghorydd Arthur Davies a'r Cynghorydd Ivor Jackson.
Bydd y grŵp, gyda chymorth a chefnogaeth gan swyddogion y cyngor, yn edrych ar amrywiol gynigion ar gyfer goleuadau stryd, gan ystyried costau ynni presennol a chostau ynni sy'n codi, unrhyw arbedion posibl o ran carbon, yn ogystal â'r risgiau a allai fod yn gysylltiedig â'r fath gynllun, er enghraifft mewn ymateb i ddiogelwch cymunedol a diogelwch ffyrdd a'r agweddau cyfreithiol yn ymwneud â'r rhain.
Bydd y cynghorwyr yn ymgynghori â'r gwasanaethau brys, yr adain diogelwch cymunedol, yr uned diogelwch ffyrdd, rheoli traffig a'r cyhoedd fel rhan o'r adolygiad. Yn ogystal, bydd y grŵp yn siarad ag awdurdodau lleol eraill sydd wedi rhoi cynllun goleuo am ran o'r nos yn unig neu gynllun tebyg ar waith cyn ystyried pa gynllun fyddai fwyaf priodol i Sir Gaerfyrddin.
Pryd y mae'r ymgynghori yn digwydd?
Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad - Ebrill 30ain 2009
Gwybodaeth Cysylltu
Uned Craffu ac Ymgynghoriaeth
Rheoli Pobl a Pherfformiad,
Bloc 14, Parc Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3HB
e-bost: craffu@sirgar.gov.uk