
Mae llawer ohonom yn hoffi ymlacio a threulio diwrnod ar y traeth, p’un a ydym yn mwynhau’r heulwen, yn nofio yn y môr, neu’n codi cestyll tywod gyda’r plant.
Traeth Cefn Sidan yw’r unig draeth yn Sir Gaerfyrddin lle mae achubwr bywyd ar ddyletswydd, ac mae achubwyr bywyd yno o’r Sulgwyn tan ddechrau mis Medi.
Mae gwahanol lefelau i Draeth Pentywyn, ond mae offer gwynt yn broblem, yn enwedig gyda’r gwynt oddi ar y lan. Mae’r Cyngor Sir, ar y cyd â pherchnogion eraill y traeth (y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chyngor Cymuned Pentywyn) wedi gwahardd cerbydau ac offer pŵer gwynt o’r traeth yn ddiweddar yn dilyn pryder ynghylch materion diogelwch. Rydym yn gwerthfawrogi bod agweddau cadarnhaol iawn i lawer o’r gweithgareddau, ac yn y tymor canolig byddwn yn trafod yn fanwl gyda chlybiau/sefydliadau, gyda’r bwriad o ailgyflwyno gweithgareddau/defnyddiau priodol mewn modd diogel, strwythuredig a rheoledig.
Mae traethau hyfryd mewn llawer o’r trefi a’r pentrefi arfordirol, ond gall y gwahaniaeth rhwng llanw isel ac uchel fod yn gymaint ag 8 metr. Cyn eich ymweliad, gwiriwch y Tablau Llanw lleol, a darllenwch ein Canllaw i Ddiogelwch ar y Traeth, sy’n rhoi cyngor defnyddiol ar sut mae bod yn ddiogel.
Mae Sir Gaerfyrddin yn ffodus iawn bod ganddi ddwy aber bwysig, Aber y Tair Afon a Moryd y Burry/Aber Llwchwr. Maent yn fannau hardd, yn bwysig yn rhyngwladol oherwydd eu bioamrywiaeth, ac yn cynnwys llawer o elfennau o ddiddordeb hanesyddol. Gallant fod yn ardderchog ar gyfer pysgota, mynd mewn cychod, cerdded a gwylio bywyd gwyllt. Fodd bynnag, gallant hefyd fod yn fannau peryglus.
Gall y gwahaniaeth yn lefel y môr fod yn gymaint ag wyth metr rhwng y llanw uchel ac isel, a dylai holl ddefnyddwyr yr aber fod yn gyfarwydd â’r tablau llanw lleol cyfredol (gweler uchod).
Gofynnwch am gyngor lleol wrth grwydro a physgota mewn aberoedd anghyfarwydd. Nid oes hawl mynediad cyffredinol oddi ar y blaendraeth, a all fod yn fwdlyd iawn ac yn anodd ei gyrraedd. Anogir cerddwyr i fwynhau’r aberoedd o’r llwybrau troed neu’r llwybrau beicio sy’n dilyn Aber Taf rhwng Lacharn a Sanclêr, Aber Gwendraeth yng Nghei Cydweli, a Moryd y Burry rhwng Porth Tywyn a’r Bynea, Llanelli.
Gofalwch rhag cerrynt cyflym mewn afonydd, banciau tywod sy’n symud, sugndraeth achlysurol a mwd meddal.
Peidiwch BYTH BYTHOEDD â cheisio nofio na cherdded ar draws aber.
O bryd i’w gilydd bydd adar gwyllt yn cael eu hela ar aberoedd yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, er na chaniateir saethu ar y Sul. Dylai ymwelwyr fod yn arbennig o ofalus yn ymyl morfeydd heli neu ardaloedd eraill lle ceir llawer o hwyaid a gwyddau.
Mewn Argyfwng dewch o hyd i’r achubwr bywydau agosaf. Os nad oes un ar ddyletswydd, deialwch 999 a gofyn am Geidwad y Glannau. Dywedwch wrthyn nhw:-
1. Pwy ydych chi.
2. Ble rydych chi.
3. Beth yw’r Argyfwng, ac
4. Arhoswch wrth y ffôn os byddan nhw’n gofyn i chi wneud hynny.