English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Canoeing and Watersports 

Cafodd Canolfan Ganŵio Padlwyr Llandysul ei hagor yn swyddogol yn Hydref 1998 ac mae wedi'i lleoli ger afon Teifi ym mhentref Llandysul yn Ne-orllewin Cymru. Datblygwyd y Ganolfan ar ôl sicrhau cyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal ag arian gan Ewrop, Canŵio Cymru a'r Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a'r Celfyddydau.

Mae'r ganolfan wedi cael llawer o flynyddoedd gwych gyda'r aelodaeth a'r ymwelwyr yn parhau i gynyddu'n gyson ac erbyn hyn mae wedi cael ei gydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth gan Canŵio Cymru.

• Mae lle yn y ganolfan i 35 o westeion mewn ystafelloedd sy'n amrywio o ran maint.
• Mae un o'r ystafelloedd ar y llawr isaf ac mae'n ddelfrydol at ddefnydd pobl ag anableddau; hefyd mae gan yr ystafell hon ei chawod ei hun.
• Mae'r ganolfan yn cynnwys cegin hunanarlwyo a lolfa fawr sydd hefyd yn cael ei defnyddio fel ystafell fwyta.
• Yn ychwanegol at hyn mae ystafell sychu, cawodydd, ystafelloedd newid, teledu a fideo.
• Mae'r ganolfan yn dal trwydded weithgareddau lawn a gall gynnal y mwyafrif o weithgareddau awyr agored.
• Mae'r safle'n ddelfrydol ar gyfer chwaraeon dŵr mewndirol yn ogystal â gweithgareddau arfordirol.
• Hefyd mae dau gae mawr gan y Ganolfan ar gyfer gwesylla.
• Mae llyn hyfforddi wedi cael ei ddatblygu'n ddiweddar.

Mae'r Ganolfan yn gallu darparu'r gweithgareddau canlynol
• Canŵio
• Rafftio Dŵr Gwyn
• Caiacio
• Dringo Creigiau ac Abseilio
• Arfordiro
• Cerdded Bryniau, Mynydda, a Chyfeiriadu
• Adeiladu Rafftiau
• Beicio Mynydd
• Syrffio Caiac
• Meithrin Tîm
• Nofio afonydd a Chrwydro Ceunentydd,

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gareth Bryant 01559 363209, BPaddlers@aol.com neu ewch i wefan Padlwyr Llandysul www.llandysul-paddlers.org.uk

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2010