Mae cymoedd serth a bryniau llyfn Sir Gaerfyrddin yn elfennau pwysig ym mhrydferthwch unigryw y sir, ond gallai'r nodweddion hynny beri bod y Sir yn ymddangos yn lle digroeso a thrafferthus i rai ymwelwyr anabl.
Fodd bynnag, dylid ystyried nifer o lecynnau hynod o brydferth. Mewn sawl man mae'r mynediad wedi ei wella drwy greu llwybrau llyfn gwastad neu lwybrau sy'n codi'n raddol iawn. Hefyd mae meysydd parcio a chyfleusterau eraill ar gael mewn llecynnau gwledig.
Yn wir mae'r holl safleoedd picnic yn werth eu hystyried gan eu bod wedi eu lleoli mewn mannau deniadol lle mae llwybrau hwylus i gadeiriau olwyn ac, yn fynych, lle mae golygfeydd gwych hefyd.
Er enghraifft mae gan safle picnic Mynydd Pen-bre lwyfan gwylio lle gellir cael golwg ar dair sir a lle gellir gwerthfawrogi gogoniant yr arfordir wrth iddo wyro tuag at Sir Benfro. Yn ogystal mae'n llecyn arbennig o dda i wylio adar ysglyfaethus megis y Cudyll Coch a'r Bwncath. Pleser pur yw gwylio bwncathod yn esgyn ac yn troelli'n ddiymdrech ar yr awel.
Hefyd mae'r Parciau Gwledig, y Parc Natur a'r Parc Coetir a reolir gan y Cyngor Sir yn fannau hwylus i'r holl ymwelwyr beth bynnag fo'u gallu. Bydd y sawl sy'n gwerthfawrogi golygfeydd gwych ac sy'n gwirioni ar natur yn ei holl ogoniant yn mwynhau ymweld â'r parciau hyn. Ar ben hynny mae pob parc yn wahanol i'w gilydd, ac yn meddu ar nodweddion sy'n peri bod pob un yn unigryw - boed yn goetiroedd hynafol, yn lannau afonydd ac yn byllau, yn rhostiroedd, yn draethau, neu'n dwyni tywod.
(Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael golwg ar y dudalen hon)
Mae rhwydwaith eang o lwybrau sy'n llyfn a heb fod yn serth yn yr holl barciau. Ar ben hynny nid oes grisiau na rhwystrau eraill ar y llwybrau hyn.
Mae Parciau Gwledig Pen-bre, Gelli Aur a Llyn Llech Owen ar agor saith niwrnod yr wythnos, ac mae Parcmyn wrth law i estyn cyngor a chymorth.
Parc Arfordirol y Mileniwm
(Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael golwg ar y dudalen hon)
Mae'r parc yn dilyn yr arfordir rhwng Pont Casllwchwr a Chydweli, ac mae'r llwybrau trwy'r parc ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Wyneb tarmac llyfn sydd gan ran helaeth o'r llwybr ar hyd yr arfordir yn Llanelli. Hefyd mae gan Lwybr Arfordirol y Mileniwm ddolenni cyswllt â Chanolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Parc Dŵr y Sandy a'r llwybr troed / beicio i gronfeydd Cwm Lliedi.
Llwybrau'r Sir
(Cliciwch ar ddolen gyswllt 'Taflenni Cerdded' i gael golwg ar y taflenni hyn)
Mae cyfres o daflenni ar gael sy'n hoelio sylw ar lwybrau yn yr ardaloedd mwyaf atyniadol yn Sir Gaerfyrddin. Mae llawer o'r llwybrau hyn yn croesi tir garw a serth a allai fod yn anaddas i rai ymwelwyr. Ond mae rhai o'r llwybrau yn llai heriol na'i gilydd, ac efallai bod rhai o'r rhain yn fwy priodol a hwylus.
Dyma ddisgrifiad cryno o'r rhai a allai fod yn addas i ymwelwyr sydd ag anabledd.
Y Llwybr Treftadaeth ym Mhont-iets
Mae'r llwybr hwn yn gyfochrog â'r rheilffordd o Gwm-mawr i Gydweli (sydd wedi ei chau bellach) ynghyd ag olion y gamlas hynaf yng Nghymru; felly mae'r llwybr yn wastad a'r unig bryd y mae angen esgyn ychydig yw wrth fynd dros bontydd ac ar hyd llwybr estyll. Mae byrddau gwybodaeth ar hyd y llwybr, ac mae'n fan delfrydol i fwynhau'r coed a'r bywyd gwyllt sy'n nodweddiadol o wlyptiroedd.
Llandeilo
Ac eithrio ambell ddarn byr mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau hyn sydd yng nghyffiniau Llandeilo yn weddol wastad. Ond mae angen croesi ambell sticil ar y llwybrau sy'n croesi tir amaethyddol. Mae'r llwybrau sydd â wyneb llyfn ym Mharc Dinefwr yn haws i'w tramwyo gan taw prin yw'r sticlau a'r clwydi ar hyd-ddynt. Hefyd mae llefydd parcio ar gael yn hwylus ger y castell i ymwelwyr anabl.
Ynys Dawela.
Parc natur ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ynys Dawela. Mae ymwelwyr anabl yn cael parcio yn y parc ei hun, lle mae llwybrau â wyneb llyfn drwy goetiroedd hynafol, dolydd sy'n gyforiog o flodau, a gwlyptir. Hwnt ac yma ar hyd y llwybrau y mae byrddau gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y cyffiniau.
(D.S. Mae'n rhaid agor a chau dwy glwyd i gael mynediad i'r llecyn parcio.)
Dyffryn y Swistir
Canolbwynt y llwybr hwn yw'r cronfeydd dŵr a arferai gyflenwi dŵr yfed i Lanelli. Bellach mae'n ardal hynod o brydferth lle gall pobl ymlacio. Mae llwybr tarmac gwastad ar hyd ochr orllewinol y gronfa isaf, ac mae llwybr sy'n codi ac yn cwympo'n raddol ar hyd yr ochr ddwyreiniol. Yr unig ffordd o gyrraedd y gronfa uchaf yw ar lwybr graeanog ar hyd ei hochr ddwyreiniol; ym mhen draw'r llwybr mae cuddfan i wylio adar.
Mae llefydd parcio ar gael ger y gronfa isaf.
Rhagor o Lwybrau'r Sir
Mae rhai darnau o Lwybrau'r Sir yn mynd trwy dir y Comisiwn Coedwigaeth gan ddefnyddio'r rhwydwaith Hawliau Tramwy. Mae rhai o'r hawliau tramwy yn serth ac yn arw, ond mae gan yr hewlydd trwy'r coedwigoedd wyneb graeanog ac felly maent yn ddewis haws. Mae'r rhan fwyaf (ond nid y cwbl) o'r hewlydd trwy'r goedwigoedd yn codi ac yn esgyn yn raddol.
Mae'r llwybrau canlynol yn cynnwys darnau sy'n mynd trwy dir y Comisiwn Coedwigaeth lle mae llecynnau parcio cyfleus.
- Abergorlech.
- Brechfa/Byrgwm.
- Talyllychau.
- Pen-bre.
- Llanfynydd.
Er bod rhai o Lwybrau'r Sir yn gallu bod yn anodd eu tramwyo, mae ganddynt ddarnau sy'n haws i bobl gerdded arnynt.
Mae'r llwybrau canlynol yn cynnwys rhai darnau haws a allai fod yn atyniadol ac yn addas i bobl lai abl.
Llangadog
Llwybr cymharol wastad o amgylch y pentref, ac ar hyd glannau'r afon, yw hwn yn bennaf ond mae rhai sticlau hwnt ac yma.
Llanymddyfri
Llwybr cymharol wastad yw hwn yn bennaf, yn enwedig ar hyd glannau Afon Tywi, ond mae rhai sticlau hwnt ac yma.
Lacharn
Mae'r darn hyd at hen lanfa'r fferi a Ffermdy Delacorse yn gymharol wastad, ond mae'r llwybr yn troi'n serth wedyn. Mae darn o'r llwybr hwn (sef y darn sy'n mynd heibio i Boathouse Dylan Thomas) yn llwybr tarmac. Mae'n lôn ddeiliog brydferth lle mae golygfeydd gwych dros yr aber.
Bronwydd
Mae llwybr prydferth a gwastad yn dilyn afon Gwili. Mae maes parcio cyfleus yn Nhrefynys, ac yna mae darn byr o'r llwybr yn dilyn yr afon (i'r gogledd o'r maes parcio) gan fynd trwy gât mochyn, ond mae'n rhaid croesi sticlau wrth fynd ar hyd y darn sydd i'r de o'r maes parcio.
Caerfyrddin
Mae gan y llwybr hwn ddarn eithaf gwastad a llyfn ar hyd glan yr afon, a phrin yw'r sticlau a'r gatiau mochyn. Mae llwybrau â wyneb llyfn yng nghyffiniau cronfeydd Cwm-oernant.