English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/3/2009
Cynllunio’ch Taith Gerdded 

Gwnewch eich tro yn y wlad yn fwy diogel a dymunol drwy wisgo esgidiau addas.  Argymhellir esgidiau cerdded gan bod y rhan fwyaf o’r llwybrau yn croesi tir fferm a gallai o dan draed fod yn serth, wedi draenio’n wael neu’n arw.

  • Gall tywydd Sir Gaerfyrddin fod yn anwadal; yn enwedig yn yr ucheldiroedd felly gwnewch yn siŵr bod dillad cynnes a chôt dal dŵr gyda chi.
    Mae’n arfer da i ddweud wrth oedolyn cyfrifol i lle’r ydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl cyrraedd yn ôl.
  • Gall y taflenni Teithiau Cerdded gael eu defnyddio ar eu pennau eu hunain neu gyda map OS diweddar (a all roi gwybodaeth ychwanegol i chi ar riwiau ac yn y blaen).  Fodd bynnag ni fydd y naill na’r llall yn fawr o werth os nad ydych yn gwybod sut i’w defnyddio, felly cymerwch amser i’ch cyfarwyddo’ch hun gyda nhw.  Gall dysgu gan gerddwr mwy profiadol fod yn ffordd gymdeithasol o ddysgu’r sgiliau ac osgoi’r rhwystredigaeth o fynd ar goll.
  • Mae’r teithiau i gyd yn mynd drwy ardaloedd sy’n gyfoethog gan fywyd gwyllt.  Mae rhai ohonynt yn croesi ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu’n mynd trwy warchodfeydd natur, felly os gallwch chi, ewch â sbienddrych gyda chi i gael gwell golwg ar yr amrywiaeth o adar a chreaduriaid eraill.