English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/11/2011
Fforwm Mynediad Sir Gaerfyrddin 

country side walking

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn gofyn am sefydlu 'fforymau mynediad lleol' ar draws Cymru a Lloegr er mwyn cynghori awdurdodau lleol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion hamdden a mwynhad yn yr awyr agored.

Bydd pob fforwm yn cynnwys rhwng 12 ac 20 o unigolion o'r gymuned leol sy'n cynrychioli trawstoriad eang o ddiddordebau.

Mae fforwm wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y sir gyfan heblaw am ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n dod o dan Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (gorllewin).

Mae'r Fforwm yn cyfarfod nifer o weithiau bob blwyddyn er mwyn ystyried amrywiaeth o bynciau mynediad, er enghraifft:

  • Paratoi mapiau 'gwlad agored' mewn cysylltiad â gwella mynediad i'r cyhoedd i 'wlad agored.'
  • Cynhyrchu 'cynlluniau gwella hawliau tramwy'
  • Adolygu strategaethau adloniant.
  • Bydd mynediad hamdden o bob math yn cael ei ystyried gan y Fforwm gan gynnwys cerdded, marchogaeth ceffylau, beicio a gyrru oddi-ar-y-ffordd.

Mae pob un o gyfarfodydd y fforwm yn agored i'r cyhoedd a chaiff agendâu a chofnodion eu cyhoeddi ar y wefan hon.

 
Manylion Cysyllt
 
Countryside Recreation & Access Unit
Mynydd Mawr Woodland Park
Heol Hirwaun Olau
Tumble, Llanelli
SA14 6HU

Tel: 01554 747500
Fax: 01269 841655
Email: leisure@carmarthenshire.gov.uk