Mae Hawl Tramwy Cyhoeddus yn llwybr y mae gan y cyhoedd hawl cyfreithiol trwy Gyfraith Priffyrdd i’w dramwyo a’i ail-dramwyo.
Mae Hawliau Tramwy i’w gweld mewn trefi, pentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae arwyneb ar rai llwybrau ond mae’r rhan fwyaf yn draciau a chaeau sy’n eiddo i dir berchnogion.
Ni ddylid cymysgu llwybrau cyhoeddus gyda llwybrau priffyrdd er enghraifft, sef palmentydd ar ochr y ffordd.
Sut i Adnabod Hawl Tramwy Cyhoeddus
Yr enw cyffredin ar hawliau tramwy cyhoeddus yw llwybrau cerdded cyhoeddus, llwybrau ceffylau cyhoeddus a chilffyrdd cyhoeddus. Oherwydd hyd y rhwydwaith, ac weithiau, anghysondebau cyfreithiol ynghylch y Map Diffyniadol, nid oes arwyddion ar bob Hawl Tramwy.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor Sir yn ceisio gofalu fod arwyddion ar bob llwybr poblogaidd. Fe welwch y disgiau nodi llwybr canlynol ar arwyddbyst neu mewn mannau amlwg ar hyd y llwybrau.
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd cyhoeddus ac fe’u cofnodir ar Fap a Datganiad Diffyniadol (cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus). Y Cyngor Sir sy’n gyfrifol am gadw’r map hwn yn gyfredol. Y Map Diffyniadol yw’r unig ffynhonnell manwl-gywir a chyfredol o wybodaeth ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Mae’r map i’w weld yn y mannau canlynol:
Yr Uned Hamdden a Chefn Gwlad
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Parc Coetir y Mynydd Mawr –
Heol Hirwaun Olau,
Y Tymbl, Llanelli.
SA14 6HU