English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/7/2009
Marina Porth Tywyn  

Wedi’i leoli yng nghanol Parc Afordirol y Mileniwm, hwn yw marina mwyaf Cymru, gyda lle i 450 o gychod. 

 Ar lan ogleddol i Aber Llwchwr, mae Marina Porth Tywyn yn cynnig i berchnogion cychod y cyfuniad perffaith o gyflesterau hamdden, yng nghanol 14 milltir o barcdir wedi’i dirlunio.  Mae’n fan cychwyn delfrydol ar gyfer archwilio arfordir De a Gorllewin Cymru, gan ei fod yn borth i Fae Caerfyrddin.  Dim ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd mae Penrhyn Gwyr, ac mae arfordir gogoneddus Sir Benfro o fewn cyrraedd hwylus.

Wariwyd mwy nag £8 miliwn yn addasu’r hen harbwr llanw yn farina modern, ac eto mae’r cyfleuster yn dal i gadw ei naws Fictoraidd hyfryd - ar ben hynny mae canol tref fechan ond bywiog ergyd carreg o’r man.

Mae’r cyfleuster yn darparu angorfeydd i fadau sydd rhwng 6 a 12 metr o hyd. Gan fod y marina wedi ei garthu hyd at ddyfnder o ryw 1.5 metr, ni all dderbyn badau sydd yn ddyfnach yn y dŵr na hynny.

Mae lefel y dŵr yn y marina yn cael ei rheoli gan lifddor awtomatig. O ganlyniad, dim ond am ryw ddwy awr / dwy awr a hanner y naill ben a’r llall i’r penllanw y gall badau gyrraedd a gadael y marina.

Marina Porth Tywyn
Swyddfa'r Harbwr, Porth Tywyn SA16 0ER
Ffôn: 01554 835691
Rhif Ffacs:  01554 836946
Ffôn symudol staff ar ddyletswydd yr harbwr: 07817395710
neu e-bostio:  marinaporthtywyn@sirgar.gov.uk